Jeremiah 1:4-14

Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, “Cyn i mi dy lunio yn y groth, fe'th adnabûm; a chyn dy eni, fe'th gysegrais; rhoddais di'n broffwyd i'r cenhedloedd.” Dywedais innau, “O Arglwydd DDUW, ni wn pa fodd i lefaru, oherwydd bachgen wyf fi.” Ond dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Paid â dweud, ‘Bachgen wyf fi’; oherwydd fe ei at bawb yr anfonaf di atynt, a llefaru pob peth a orchmynnaf i ti. Paid ag ofni o'u hachos, oherwydd yr wyf fi gyda thi i'th waredu,” medd yr ARGLWYDD. Yna estynnodd yr ARGLWYDD ei law a chyffwrdd â'm genau; a dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Wele, rhoddais fy ngeiriau yn dy enau. Edrych, fe'th osodais di heddiw dros y cenhedloedd a thros y teyrnasoedd, i ddiwreiddio ac i dynnu i lawr, i ddifetha ac i ddymchwelyd, i adeiladu ac i blannu.” Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, “Jeremeia, beth a weli di?” Dywedais innau, “Yr wyf yn gweld gwialen almon.” Atebodd yr ARGLWYDD, “Gwelaist yn gywir, oherwydd yr wyf fi'n gwylio fy ngair i'w gyflawni.” A daeth gair yr ARGLWYDD ataf yr eildro a dweud, “Beth a weli di?” Dywedais innau, “Yr wyf yn gweld crochan yn berwi, a'i ogwydd o'r gogledd.” A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “o'r gogledd yr ymarllwys dinistr dros holl drigolion y tir.
Jeremeia 1:4-14