James 4:7-10

Felly, ymddarostyngwch i Dduw. Gwrthsafwch y diafol, ac fe ffy oddi wrthych. Nesewch at Dduw, ac fe nesâ ef atoch chwi. Glanhewch eich dwylo, chwi bechaduriaid, a phurwch eich calonnau, chwi bobl ddau feddwl. Tristewch a galarwch ac wylwch. Bydded i'ch chwerthin droi'n alar a'ch llawenydd yn brudd-der. Ymostyngwch o flaen yr Arglwydd, a bydd ef yn eich dyrchafu chwi.
Iago 4:7-10