Isaiah 9:6-7

Canys bachgen a aned i ni, mab a roed i ni, a bydd yr awdurdod ar ei ysgwydd. Fe'i gelwir, “Cynghorwr rhyfeddol, Duw cadarn, Tad bythol, Tywysog heddychlon”. Ni bydd diwedd ar gynnydd ei lywodraeth, nac ar ei heddwch i orsedd Dafydd a'i frenhiniaeth, i'w sefydlu'n gadarn â barn a chyfiawnder, o hyn a hyd byth. Bydd sêl ARGLWYDD y Lluoedd yn gwneud hyn.
Eseia 9:6-7