Dywedodd yntau, “Gwrandewch yn awr, tŷ Dafydd. Ai peth bach yn eich golwg yw trethu amynedd pobl, a'ch bod am drethu amynedd fy Nuw hefyd? Am hynny, y mae'r ARGLWYDD ei hun yn rhoi arwydd i chwi: Wele ferch ifanc yn feichiog, a phan esgor ar fab, fe'i geilw'n Immanuel.