Isaiah 60:1-5

“Cod, llewyrcha, oherwydd daeth dy oleuni; llewyrchodd gogoniant yr ARGLWYDD arnat. Er bod tywyllwch yn gorchuddio'r ddaear, a'r fagddu dros y bobloedd, bydd yr ARGLWYDD yn llewyrchu arnat ti, a gwelir ei ogoniant arnat. Fe ddaw'r cenhedloedd at dy oleuni, a brenhinoedd at ddisgleirdeb dy wawr. “Cod dy lygaid ac edrych o'th gwmpas; y maent i gyd yn ymgasglu i ddod atat, yn dwyn dy feibion a'th ferched o bell, ac yn eu cludo ar eu hystlys; pan weli, bydd dy wyneb yn gloywi, bydd dy galon yn llawn cyffro a llawenydd; troir atat gyflawnder y môr, a daw golud y cenhedloedd yn eiddo iti.
Eseia 60:1-5