Isaiah 55:8-11

“Oherwydd nid fy meddyliau i yw eich meddyliau chwi, ac nid eich ffyrdd chwi yw fy ffyrdd i,” medd yr ARGLWYDD. “Fel y mae'r nefoedd yn uwch na'r ddaear, y mae fy ffyrdd i yn uwch na'ch ffyrdd chwi, a'm meddyliau i na'ch meddyliau chwi. Fel y mae'r glaw a'r eira yn disgyn o'r nefoedd, a heb ddychwelyd yno nes dyfrhau'r ddaear, a gwneud iddi darddu a ffrwythloni, a rhoi had i'w hau a bara i'w fwyta, felly y mae fy ngair sy'n dod o'm genau; ni ddychwel ataf yn ofer, ond fe wna'r hyn a ddymunaf, a llwyddo â'm neges.
Eseia 55:8-11