Isaiah 55:10-13

Fel y mae'r glaw a'r eira yn disgyn o'r nefoedd, a heb ddychwelyd yno nes dyfrhau'r ddaear, a gwneud iddi darddu a ffrwythloni, a rhoi had i'w hau a bara i'w fwyta, felly y mae fy ngair sy'n dod o'm genau; ni ddychwel ataf yn ofer, ond fe wna'r hyn a ddymunaf, a llwyddo â'm neges. “Mewn llawenydd yr ewch allan, ac mewn heddwch y'ch arweinir; bydd y mynyddoedd a'r bryniau'n bloeddio canu o'ch blaen, a holl goed y maes yn curo dwylo. Bydd ffynidwydd yn tyfu yn lle drain, a myrtwydd yn lle mieri; bydd hyn yn glod i'r ARGLWYDD, yn arwydd tragwyddol na ddileir mohono.”
Eseia 55:10-13