Isaiah 53:3-8

Roedd wedi ei ddirmygu a'i wrthod gan eraill, yn ŵr clwyfedig, cyfarwydd â dolur; yr oeddem fel pe'n cuddio'n hwynebau oddi wrtho, yn ei ddirmygu ac yn ei anwybyddu. Eto, ein dolur ni a gymerodd, a'n gwaeledd ni a ddygodd— a ninnau'n ei gyfrif wedi ei glwyfo a'i daro gan Dduw, a'i ddarostwng. Ond archollwyd ef am ein troseddau ni, a'i ddryllio am ein camweddau ni; roedd pris ein heddwch ni arno ef, a thrwy ei gleisiau ef y cawsom ni iachâd. Rydym ni i gyd wedi crwydro fel defaid, pob un yn troi i'w ffordd ei hun; a rhoes yr ARGLWYDD arno ef ein beiau ni i gyd. Fe'i gorthrymwyd a'i ddarostwng, ond nid agorai ei enau; arweiniwyd ef fel oen i'r lladdfa, ac fel y bydd dafad yn ddistaw yn llaw'r cneifiwr, felly nid agorai yntau ei enau. Cymerwyd ef ymaith heb ei roi ar brawf na'i farnu— pwy oedd yn malio am ei dynged? Fe'i torrwyd o dir y rhai byw, a'i daro am drosedd fy mhobl.
Eseia 53:3-8