Isaiah 29:13-16

Yna fe ddywedodd yr ARGLWYDD, “Oherwydd bod y bobl hyn yn nesáu ataf a thalu gwrogaeth i mi â geiriau yn unig, ond eu calon ymhell oddi wrthyf, a'u parch i mi yn ddim ond cyfraith ddynol wedi ei dysgu ar gof, am hynny wele fi'n gwneud rhyfeddod eto, ac yn syfrdanu'r bobl hyn; difethir doethineb eu doethion a chuddir deall y rhai deallus.” Gwae y rhai sy'n cloddio'n ddwfn i gadw eu cynllwyn yn gudd rhag yr ARGLWYDD; am fod eu gwaith yn y tywyllwch, dywedant, “Pwy sy'n ein gweld? Pwy sy'n gwybod?” Troi popeth o chwith yr ydych. A yw'r crochenydd i'w ystyried fel clai? A ddywed y peth a wnaethpwyd am ei wneuthurwr, “Nid ef a'm gwnaeth”? A ddywed y llestr am ei luniwr, “Nid yw'n deall”?
Eseia 29:13-16