Isaiah 12:2-6

Wele, Duw yw fy iachawdwriaeth; rwy'n hyderus, ac nid ofnaf; canys yr ARGLWYDD Dduw yw fy nerth a'm cân, ac ef yw fy iachawdwr.” Mewn llawenydd fe dynnwch ddŵr o ffynhonnau iachawdwriaeth. Yn y dydd hwnnw fe ddywedi, “Diolchwch i'r ARGLWYDD, galwch ar ei enw; hysbyswch ei weithredoedd ymhlith y cenhedloedd, cyhoeddwch fod ei enw'n oruchaf. Canwch salmau i'r ARGLWYDD, canys enillodd fuddugoliaeth; hysbyser hyn yn yr holl dir. Bloeddia, llefa'n llawen, ti sy'n preswylio yn Seion; canys y mae Sanct Israel yn fawr yn eich plith.”
Eseia 12:2-6