Isaiah 12:1-4

Yn y dydd hwnnw fe ddywedi, “Molaf di, O ARGLWYDD; er iti ddigio wrthyf, trodd dy lid, a rhoist gysur imi. Wele, Duw yw fy iachawdwriaeth; rwy'n hyderus, ac nid ofnaf; canys yr ARGLWYDD Dduw yw fy nerth a'm cân, ac ef yw fy iachawdwr.” Mewn llawenydd fe dynnwch ddŵr o ffynhonnau iachawdwriaeth. Yn y dydd hwnnw fe ddywedi, “Diolchwch i'r ARGLWYDD, galwch ar ei enw; hysbyswch ei weithredoedd ymhlith y cenhedloedd, cyhoeddwch fod ei enw'n oruchaf.
Eseia 12:1-4