Gálatas 5:1-6

I ryddid y rhyddhaodd Crist ni. Safwch yn gadarn, felly, a pheidiwch â phlygu eto i iau caethiwed. Dyma fy ngeiriau, i, Paul, wrthych chwi: os derbyniwch enwaediad, ni bydd Crist o ddim budd i chwi. Yr wyf yn tystio unwaith eto wrth bob dyn a enwaedir, ei fod dan rwymedigaeth i gadw'r Gyfraith i gyd. Chwi sy'n ceisio cyfiawnhad trwy gyfraith, y mae eich perthynas â Christ wedi ei thorri; yr ydych wedi syrthio oddi wrth ras. Ond yr ydym ni, yn yr Ysbryd, trwy ffydd, yn disgwyl am y cyfiawnder yr ydym yn gobeithio amdano. Oherwydd yng Nghrist Iesu nid enwaediad sy'n cyfrif, na dienwaediad, ond ffydd yn gweithredu trwy gariad.
Galatiaid 5:1-6