Ephesians 5:13-21

Ond y mae pob peth a ddadlennir gan y goleuni yn dod yn weladwy, oherwydd goleuni yw pob peth a wneir yn weladwy. Am hynny y dywedir: “Deffro, di sydd yn cysgu, a chod oddi wrth y meirw, ac fe dywynna Crist arnat.” Felly, gwyliwch eich ymddygiad yn ofalus, gan fyw, nid fel rhai annoeth ond fel rhai doeth. Daliwch ar eich cyfle, oherwydd y mae'r dyddiau'n ddrwg. Am hynny, peidiwch â bod yn ffôl, ond deallwch beth yw ewyllys yr Arglwydd. Peidiwch â meddwi ar win (afradlonedd yw hynny), ond llanwer chwi â'r Ysbryd. Cyfarchwch eich gilydd â salmau ac emynau a chaniadau ysbrydol; canwch a phynciwch o'ch calon i'r Arglwydd. Diolchwch bob amser am bob dim i Dduw y Tad yn enw ein Harglwydd Iesu Grist; a byddwch ddarostyngedig i'ch gilydd, o barchedig ofn tuag at Grist.
Effesiaid 5:13-21