Ephesians 5:1-5

Byddwch, felly, yn efelychwyr Duw, fel plant annwyl iddo, gan fyw mewn cariad, yn union fel y carodd Crist ni, a'i roi ei hun trosom, yn offrwm ac aberth i Dduw, o arogl pêr. Anfoesoldeb rhywiol, a phob aflendid a thrachwant, peidiwch hyd yn oed â'u henwi yn eich plith, fel y mae'n briodol i saint; a'r un modd bryntni, a chleber ffôl, a siarad gwamal, pethau sy'n anweddus. Yn hytrach, geiriau diolch sy'n gweddu i chwi. Gwyddoch hyn yn sicr, nad oes cyfran yn nheyrnas Crist a Duw i neb sy'n puteinio neu'n aflan, nac i neb sy'n drachwantus, hynny yw, yn addoli eilunod.
Effesiaid 5:1-5