Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ephesians 4:1-22

Effesiaid 4:1-22 - Yr wyf fi, felly, sy'n garcharor er mwyn yr Arglwydd, yn eich annog i fyw yn deilwng o'r alwad a gawsoch. Byddwch yn ostyngedig ac addfwyn ym mhob peth, ac yn amyneddgar, gan oddef eich gilydd mewn cariad. Ymrowch i gadw, â rhwymyn tangnefedd, yr undod y mae'r Ysbryd yn ei roi. Un corff sydd, ac un Ysbryd, yn union fel mai un yw'r gobaith sy'n ymhlyg yn eich galwad; un Arglwydd, un ffydd, un bedydd, un Duw a Thad i bawb, yr hwn sydd goruwch pawb, a thrwy bawb, ac ym mhawb.
Ond i bob un ohonom rhoddwyd gras, ei ran o rodd Crist. Am hynny y mae'r Ysgrythur yn dweud:

“Esgynnodd i'r uchelder, gan arwain ei garcharorion yn gaeth;
rhoddodd roddion i bobl.”

Beth yw ystyr “esgynnodd”? Onid yw'n golygu ei fod wedi disgyn hefyd i barthau isaf y ddaear? Yr un a ddisgynnodd yw'r un a esgynnodd hefyd ymhell uwchlaw'r nefoedd i gyd, i lenwi'r holl greadigaeth. A dyma'i roddion: rhai i fod yn apostolion, rhai yn broffwydi, rhai yn efengylwyr, rhai yn fugeiliaid ac yn athrawon, i gymhwyso'r saint i waith gweinidogaeth, i adeiladu corff Crist. Felly y cyrhaeddwn oll hyd at yr undod a berthyn i'r ffydd ac i adnabyddiaeth o Fab Duw. Y nod yw dynoliaeth lawn dwf, a'r mesur yw'r aeddfedrwydd sy'n perthyn i gyflawnder Crist. Nid ydym i fod yn fabanod mwyach, yn cael ein lluchio gan donnau a'n gyrru yma a thraw gan bob rhyw awel o athrawiaeth, wedi ein dal gan ystryw y rhai sy'n ddyfeisgar i gynllwynio twyll. Na, gadewch i ni ddilyn y gwir mewn cariad, a thyfu ym mhob peth i Grist. Ef yw'r pen, ac wrtho ef y mae'r holl gorff yn cael ei ddal wrth ei gilydd a'i gysylltu drwy bob cymal sy'n rhan ohono. Felly, trwy weithgarwch cyfaddas pob un rhan, ceir prifiant yn y corff, ac y mae'n ei adeiladu ei hun mewn cariad.

Hyn, felly, yr wyf yn ei ddweud ac yn ei argymell arnoch yn yr Arglwydd, eich bod chwi bellach i beidio â byw fel y mae'r Cenhedloedd yn byw, yn oferedd eu meddwl; oherwydd tywyllwch sydd yn eu deall, a dieithriaid ydynt i'r bywyd sydd o Dduw, o achos yr anwybodaeth y maent yn ei choleddu a'r ystyfnigrwydd sydd yn eu calon. Pobl ydynt sydd wedi colli pob teimlad ac wedi ymollwng i'r anlladrwydd sy'n peri iddynt gyflawni pob math o aflendid yn ddiymatal. Ond nid felly yr ydych chwi wedi dysgu Crist, chwi sydd, yn wir, wedi clywed amdano ac wedi eich hyfforddi ynddo, yn union fel y mae'r gwirionedd yn Iesu. Fe'ch dysgwyd eich bod i roi heibio'r hen natur ddynol oedd yn perthyn i'ch ymarweddiad gynt ac sy'n cael ei llygru gan chwantau twyllodrus

Yr wyf fi, felly, sy'n garcharor er mwyn yr Arglwydd, yn eich annog i fyw yn deilwng o'r alwad a gawsoch. Byddwch yn ostyngedig ac addfwyn ym mhob peth, ac yn amyneddgar, gan oddef eich gilydd mewn cariad. Ymrowch i gadw, â rhwymyn tangnefedd, yr undod y mae'r Ysbryd yn ei roi. Un corff sydd, ac un Ysbryd, yn union fel mai un yw'r gobaith sy'n ymhlyg yn eich galwad; un Arglwydd, un ffydd, un bedydd, un Duw a Thad i bawb, yr hwn sydd goruwch pawb, a thrwy bawb, ac ym mhawb. Ond i bob un ohonom rhoddwyd gras, ei ran o rodd Crist. Am hynny y mae'r Ysgrythur yn dweud: “Esgynnodd i'r uchelder, gan arwain ei garcharorion yn gaeth; rhoddodd roddion i bobl.” Beth yw ystyr “esgynnodd”? Onid yw'n golygu ei fod wedi disgyn hefyd i barthau isaf y ddaear? Yr un a ddisgynnodd yw'r un a esgynnodd hefyd ymhell uwchlaw'r nefoedd i gyd, i lenwi'r holl greadigaeth. A dyma'i roddion: rhai i fod yn apostolion, rhai yn broffwydi, rhai yn efengylwyr, rhai yn fugeiliaid ac yn athrawon, i gymhwyso'r saint i waith gweinidogaeth, i adeiladu corff Crist. Felly y cyrhaeddwn oll hyd at yr undod a berthyn i'r ffydd ac i adnabyddiaeth o Fab Duw. Y nod yw dynoliaeth lawn dwf, a'r mesur yw'r aeddfedrwydd sy'n perthyn i gyflawnder Crist. Nid ydym i fod yn fabanod mwyach, yn cael ein lluchio gan donnau a'n gyrru yma a thraw gan bob rhyw awel o athrawiaeth, wedi ein dal gan ystryw y rhai sy'n ddyfeisgar i gynllwynio twyll. Na, gadewch i ni ddilyn y gwir mewn cariad, a thyfu ym mhob peth i Grist. Ef yw'r pen, ac wrtho ef y mae'r holl gorff yn cael ei ddal wrth ei gilydd a'i gysylltu drwy bob cymal sy'n rhan ohono. Felly, trwy weithgarwch cyfaddas pob un rhan, ceir prifiant yn y corff, ac y mae'n ei adeiladu ei hun mewn cariad. Hyn, felly, yr wyf yn ei ddweud ac yn ei argymell arnoch yn yr Arglwydd, eich bod chwi bellach i beidio â byw fel y mae'r Cenhedloedd yn byw, yn oferedd eu meddwl; oherwydd tywyllwch sydd yn eu deall, a dieithriaid ydynt i'r bywyd sydd o Dduw, o achos yr anwybodaeth y maent yn ei choleddu a'r ystyfnigrwydd sydd yn eu calon. Pobl ydynt sydd wedi colli pob teimlad ac wedi ymollwng i'r anlladrwydd sy'n peri iddynt gyflawni pob math o aflendid yn ddiymatal. Ond nid felly yr ydych chwi wedi dysgu Crist, chwi sydd, yn wir, wedi clywed amdano ac wedi eich hyfforddi ynddo, yn union fel y mae'r gwirionedd yn Iesu. Fe'ch dysgwyd eich bod i roi heibio'r hen natur ddynol oedd yn perthyn i'ch ymarweddiad gynt ac sy'n cael ei llygru gan chwantau twyllodrus

Effesiaid 4:1-22