Colossians 4:2-6

Parhewch i weddïo yn ddyfal, yn effro, ac yn ddiolchgar. Gweddïwch yr un pryd drosom ninnau hefyd, ar i Dduw agor inni ddrws i'r gair, inni gael traethu dirgelwch Crist, y dirgelwch yr wyf yn garcharor er ei fwyn. Gweddïwch ar i mi ei amlygu, fel y mae'n ddyletswydd arnaf lefaru. Byddwch yn ddoeth eich ymddygiad tuag at y rhai sydd y tu allan; daliwch ar eich cyfle. Bydded eich gair bob amser yn rasol, wedi ei flasu â halen, ichwi fedru ateb pob un fel y dylid.
Colosiaid 4:2-6