2 Corinthians 9:5-15

Dyna pam y teimlais ei bod yn angenrheidiol gofyn i'r brodyr ddod atoch o'm blaen i, a threfnu ymlaen llaw y rhodd yr oeddech wedi ei haddo o'r blaen. Felly byddai'n barod i mi, yn rhodd haelioni, nid rhodd cybydd-dod. Cofiwch hyn: a heuo'n brin a fed yn brin, a heuo'n hael a fed yn hael. Rhaid i bawb roi o wirfodd ei galon, nid o anfodd neu o raid, oherwydd rhoddwr llawen y mae Duw'n ei garu. Y mae Duw yn gallu rhoi pob gras i chwi yn helaeth, er mwyn i chwi, ar ben eich digon bob amser ym mhob peth, allu rhoi yn helaeth i bob gwaith da. Fel y mae'n ysgrifenedig: “Gwasgarodd ei roddion ymhlith y tlodion, y mae ei haelioni yn para am byth.” Bydd yr hwn sydd yn rhoi had i'r heuwr a bara iddo'n ymborth yn rhoi had i chwithau ac yn ei amlhau; bydd yn peri i ffrwyth eich haelioni gynyddu. Ym mhob peth cewch eich cyfoethogi ar gyfer pob haelioni, a bydd hynny trwom ni yn esgor ar ddiolchgarwch i Dduw. Oherwydd y mae'r cymorth a ddaw o'r gwasanaeth hwn, nid yn unig yn diwallu anghenion y saint ond hefyd yn gorlifo mewn llawer o ddiolchgarwch i Dduw. Ar gyfrif y prawf sydd yn y cymorth hwn, byddant yn gogoneddu Duw am eich ufudd-dod i Efengyl Crist, yr Efengyl yr ydych yn ei chyffesu, ac am haelioni eich cyfraniad iddynt hwy ac i bawb. Byddant yn hiraethu amdanoch ac yn gweddïo ar eich rhan, oherwydd y gras rhagorol a roddodd Duw i chwi. Diolch i Dduw am ei rodd anhraethadwy.
2 Corinthiaid 9:5-15