1 Timothy 4:7-11

Paid â gwrando ar chwedlau bydol hen wrachod, ond ymarfer dy hun i fod yn dduwiol. Wrth gwrs, y mae i ymarfer y corff beth gwerth, ond i ymarfer duwioldeb y mae pob gwerth, gan fod ynddo addewid o fywyd yn y byd hwn a'r byd a ddaw. Dyna air i'w gredu, sy'n teilyngu derbyniad llwyr. I'r diben hwn yr ydym yn llafurio ac yn ymdrechu, oherwydd rhoesom ein gobaith yn y Duw byw, sy'n Waredwr i bawb, ond i'r credinwyr yn fwy na neb. Gorchymyn y pethau hyn i'th bobl, a dysg hwy iddynt.
1 Timotheus 4:7-11