I Peter 1:9-13

wrth ichwi fedi ffrwyth eich ffydd, sef iachawdwriaeth eich eneidiau. Iachawdwriaeth yw hon y bu ymofyn ac ymorol dyfal amdani gan y proffwydi a broffwydodd am y gras oedd i ddod i chwi. Holi yr oeddent at ba amser neu amgylchiadau yr oedd Ysbryd Crist o'u mewn yn cyfeirio, wrth dystiolaethu ymlaen llaw i'r dioddefiadau oedd i ddod i ran Crist, ac i'w canlyniadau gogoneddus. Datguddiwyd i'r proffwydi hyn nad arnynt eu hunain ond arnoch chwi yr oeddent yn gweini wrth sôn am y pethau sydd yn awr wedi eu cyhoeddi i chwi gan y rhai a bregethodd yr Efengyl i chwi drwy nerth yr Ysbryd Glân, a anfonwyd o'r nef. Pethau yw'r rhain y mae angylion yn chwenychu edrych arnynt. Gan hynny, rhowch fin ar eich meddwl, ymddisgyblwch, a gosodwch eich gobaith yn gyfan gwbl ar y gras sy'n cael ei ddwyn atoch pan ddatguddir Iesu Grist.
1 Pedr 1:9-13