1 Peter 1:13-16

Gan hynny, rhowch fin ar eich meddwl, ymddisgyblwch, a gosodwch eich gobaith yn gyfan gwbl ar y gras sy'n cael ei ddwyn atoch pan ddatguddir Iesu Grist. Fel plant ufudd, peidiwch â chydymffurfio â'r chwantau y buoch yn eu dilyn gynt yn eich anwybodaeth; eithr fel yr Un Sanctaidd a'ch galwodd chwi, byddwch chwithau yn sanctaidd yn eich holl ymarweddiad. Oherwydd y mae'n ysgrifenedig, “Byddwch sanctaidd, oherwydd yr wyf fi yn sanctaidd.”
1 Pedr 1:13-16