1 Peter 1:13-20

Gan hynny, rhowch fin ar eich meddwl, ymddisgyblwch, a gosodwch eich gobaith yn gyfan gwbl ar y gras sy'n cael ei ddwyn atoch pan ddatguddir Iesu Grist. Fel plant ufudd, peidiwch â chydymffurfio â'r chwantau y buoch yn eu dilyn gynt yn eich anwybodaeth; eithr fel yr Un Sanctaidd a'ch galwodd chwi, byddwch chwithau yn sanctaidd yn eich holl ymarweddiad. Oherwydd y mae'n ysgrifenedig, “Byddwch sanctaidd, oherwydd yr wyf fi yn sanctaidd.” Ac os fel Tad yr ydych yn galw ar yr hwn sydd yn barnu'n ddi-dderbyn-wyneb yn ôl gwaith pob un, ymddygwch mewn parchedig ofn dros amser eich alltudiaeth. Gwyddoch nad â phethau llygradwy, arian neu aur, y prynwyd ichwi ryddid oddi wrth yr ymarweddiad ofer a etifeddwyd gennych, ond â gwaed gwerthfawr Un oedd fel oen di-fai a di-nam, sef Crist. Yr oedd Duw wedi ei ddewis cyn seilio'r byd, ac amlygwyd ef yn niwedd yr amserau er eich mwyn chwi
1 Pedr 1:13-20