1 Corinthians 3:18-23

Peidied neb â'i dwyllo'i hunan; os oes rhywun yn eich plith yn tybio ei fod yn ddoeth yn ôl safonau'r oes hon, bydded ffôl, er mwyn dod yn ddoeth. Oherwydd y mae doethineb y byd hwn yn ffolineb yng ngolwg Duw. Y mae'n ysgrifenedig: “Y mae ef yn dal y doethion yn eu cyfrwystra”, ac eto: “Y mae'r Arglwydd yn gwybod meddyliau'r doethion, mai ofer ydynt.” Felly peidied neb ag ymffrostio mewn arweinwyr dynol. Oherwydd y mae pob peth yn eiddo i chwi— Paul, Apolos, Ceffas, y byd, bywyd, angau, y presennol, y dyfodol—pob peth yn eiddo i chwi, a chwithau yn eiddo Crist, a Christ yn eiddo Duw.
1 Corinthiaid 3:18-23