1 Corinthians 2:9-12

Ond fel y mae'n ysgrifenedig: “Pethau na welodd llygad, ac na chlywodd clust, ac na ddaeth i feddwl neb, y cwbl a ddarparodd Duw ar gyfer y rhai sy'n ei garu.” Eithr datguddiodd Duw hwy i ni trwy'r Ysbryd. Oblegid y mae'r Ysbryd yn plymio pob peth, hyd yn oed ddyfnderoedd Duw. Oherwydd pwy sy'n deall y natur ddynol, ond yr ysbryd sydd ym mhob un? Yr un modd nid oes neb yn gwybod natur Duw, ond Ysbryd Duw. Ond nyni, nid ysbryd y byd a dderbyniasom, ond yr Ysbryd sydd oddi wrth Dduw, er mwyn inni wybod y pethau a roddodd Duw o'i ras i ni.
1 Corinthiaid 2:9-12