1 Corinthians 16:13-18

Byddwch yn wyliadwrus, safwch yn gadarn yn y ffydd, byddwch yn wrol, ymgryfhewch. Popeth a wnewch, gwnewch ef mewn cariad. Gwyddoch am deulu Steffanas, mai hwy oedd Cristionogion cyntaf Achaia, a'u bod wedi ymroi i weini ar y saint. Yr wyf yn erfyn arnoch, gyfeillion, i ymostwng i rai felly, a phawb sydd yn cydweithio ac yn llafurio gyda ni. Yr wyf yn llawenhau am fod Steffanas a Ffortwnatus ac Achaicus wedi dod, oherwydd y maent wedi cyflawni yr hyn oedd y tu hwnt i'ch cyrraedd chwi. Y maent wedi esmwytho ar fy ysbryd i, a'ch ysbryd chwithau hefyd. Cydnabyddwch rai felly.
1 Corinthiaid 16:13-18