Canlyniadau Chwilio we all are sheep gone astray
Eseia 53:6 (BCND)
Rydym ni i gyd wedi crwydro fel defaid, pob un yn troi i'w ffordd ei hun; a rhoes yr ARGLWYDD arno ef ein beiau ni i gyd.
1 Pedr 2:25 (BCND)
Oherwydd yr oeddech fel defaid ar ddisberod, ond yn awr troesoch at Fugail a Gwarchodwr eich eneidiau.
Luc 15:4 (BCND)
“Bwriwch fod gan un ohonoch chwi gant o ddefaid, a digwydd iddo golli un ohonynt; onid yw'n gadael y naw deg a naw yn yr anialdir ac yn mynd ar ôl y ddafad golledig nes dod o hyd iddi?
Y Salmau 23:1 (BCND)
Yr ARGLWYDD yw fy mugail, ni bydd eisiau arnaf.
Y Salmau 23:2 (BCND)
Gwna imi orwedd mewn porfeydd breision, a thywys fi gerllaw dyfroedd tawel,
Y Salmau 23:3 (BCND)
ac y mae ef yn fy adfywio. Fe'm harwain ar hyd llwybrau cyfiawnder er mwyn ei enw.
Y Salmau 23:4 (BCND)
Er imi gerdded trwy ddyffryn tywyll du, nid ofnaf unrhyw niwed, oherwydd yr wyt ti gyda mi, a'th wialen a'th ffon yn fy nghysuro.
Y Salmau 23:5 (BCND)
Yr wyt yn arlwyo bwrdd o'm blaen yng ngŵydd fy ngelynion; yr wyt yn eneinio fy mhen ag olew; y mae fy nghwpan yn llawn.
Y Salmau 23:6 (BCND)
Yn sicr, bydd daioni a thrugaredd yn fy nilyn bob dydd o'm bywyd, a byddaf yn byw yn nhŷ'r ARGLWYDD weddill fy nyddiau.
Ioan 10:11 (BCND)
Myfi yw'r bugail da. Y mae'r bugail da yn rhoi ei einioes dros y defaid.
Ioan 10:14 (BCND)
Myfi yw'r bugail da; yr wyf yn adnabod fy nefaid, a'm defaid yn f'adnabod i,
Jeremeia 50:6 (BCND)
“Praidd ar ddisberod oedd fy mhobl; gyrrodd eu bugeiliaid hwy ar gyfeiliorn, a'u troi ymaith ar y mynyddoedd; crwydrasant o fynydd i fryn, gan anghofio'u corlan.
Hebreaid 13:20 (BCND)
Bydded i Dduw tangnefedd, yr hwn a ddug yn ôl oddi wrth y meirw ein Harglwydd Iesu, Bugail mawr y defaid, trwy waed y cyfamod tragwyddol,
1 Pedr 5:4 (BCND)
A phan ymddengys y Pen Bugail, fe gewch eich coroni â thorch gogoniant, nad yw byth yn gwywo.