Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Canlyniadau Chwilio romans 6:23

Rhufeiniaid 6:23 (BCND)

Y mae pechod yn talu cyflog, sef marwolaeth; ond rhoi yn rhad y mae Duw, rhoi bywyd tragwyddol yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.

Effesiaid 6:23 (BCND)

Tangnefedd i'r cyfeillion, a chariad ynghyd â ffydd oddi wrth Dduw Dad a'r Arglwydd Iesu Grist.

Diarhebion 6:23 (BCND)

Oherwydd y mae gorchymyn yn llusern, a chyfarwyddyd yn oleuni, a cherydd disgyblaeth yn arwain i fywyd,

Jeremeia 6:23 (BCND)

Gafaelant mewn bwa a gwaywffon, y maent yn greulon a didostur; y mae eu twrf fel y môr yn rhuo, marchogant feirch, a dod yn rhengoedd, fel gwŷr yn mynd i ryfela, yn dy erbyn di, ferch Seion.”

Daniel 6:23 (BCND)

Gorfoleddodd y brenin, a gorchymyn rhyddhau Daniel o'r ffau. A phan gafodd ei ryddhau, nid oedd unrhyw niwed i'w weld arno, am iddo ymddiried yn ei Dduw.

Mathew 6:23 (BCND)

Ond os bydd dy lygad yn drachwantus, bydd dy gorff yn llawn tywyllwch. Ac os yw'r goleuni sydd ynot yn dywyllwch, mor fawr yw'r tywyllwch!

Marc 6:23 (BCND)

A gwnaeth lw difrifol iddi, “Beth bynnag a ofynni gennyf, rhof ef iti, hyd at hanner fy nheyrnas.”

Luc 6:23 (BCND)

Byddwch lawen y dydd hwnnw a llamwch o orfoledd, oherwydd, ystyriwch, y mae eich gwobr yn fawr yn y nef. Oherwydd felly'n union y gwnaeth eu hynafiaid i'r proffwydi.

Ioan 6:23 (BCND)

Ond yr oedd cychod eraill o Tiberias wedi dod yn agos i'r fan lle'r oeddent wedi bwyta'r bara ar ôl i'r Arglwydd roi diolch.

Exodus 6:23 (BCND)

Priododd Aaron ag Eliseba, merch i Aminadab a chwaer i Nahason; esgorodd hi ar Nadab, Abihu, Eleasar ac Ithamar.

Lefiticus 6:23 (BCND)

Y mae pob bwydoffrwm gan offeiriad i'w losgi'n llwyr; ni ddylid ei fwyta.”

Numeri 6:23 (BCND)

“Dywed wrth Aaron a'i feibion, ‘Yr ydych i fendithio pobl Israel a dweud wrthynt:

Deuteronomium 6:23 (BCND)

Daeth â ni allan oddi yno er mwyn ein harwain i'r wlad y tyngodd i'n hynafiaid y byddai'n ei rhoi inni.

Josua 6:23 (BCND)

Aeth yr ysbïwyr, a dwyn allan Rahab a'i thad a'i mam a'i brodyr a phawb oedd yn perthyn iddi; yn wir daethant â'i thylwyth i gyd oddi yno a'u gosod y tu allan i wersyll Israel.

Barnwyr 6:23 (BCND)

Ond dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Heddwch iti; paid ag ofni, ni byddi farw.”

Job 6:23 (BCND)

achubwch fi o afael y gelyn, a rhyddhewch fi o afael gormeswyr’?

2 Samuel 6:23 (BCND)

Bu Michal merch Saul yn ddiblentyn hyd ddydd ei marw.

1 Brenhinoedd 6:23 (BCND)

Yn y cysegr mewnol gwnaeth ddau gerwb, deg cufydd o uchder, o bren olewydd.

2 Brenhinoedd 6:23 (BCND)

Arlwyodd wledd fawr iddynt, ac wedi iddynt fwyta ac yfed, gollyngodd hwy. Aethant at eu meistr, ac ni ddaeth byddinoedd Syria rhagor i dir Israel.

1 Cronicl 6:23 (BCND)

Elcana ei fab yntau, Ebiasaff ei fab yntau, Assir ei fab yntau.

2 Cronicl 6:23 (BCND)

gwrando di o'r nef a gweithredu. Gweinydda farn i'th weision drwy gosbi'r drwgweithredwr yn ôl ei ymddygiad, ond llwydda achos y cyfiawn yn ôl ei gyfiawnder.

Diarhebion 23:6 (BCND)

Paid â bwyta gyda neb cybyddlyd, na chwennych ei ddanteithion,

Eseia 23:6 (BCND)

Ewch drosodd i Tarsis; udwch, drigolion y glannau.

Jeremeia 23:6 (BCND)

Yn ei ddyddiau ef fe achubir Jwda ac fe drig Israel mewn diogelwch; dyma'r enw a roddir iddo: ‘Yr ARGLWYDD ein Cyfiawnder.’

Eseciel 23:6 (BCND)

mewn lifrai glas, yn llywodraethwyr a chadfridogion—gwŷr ifainc dymunol, pob un ohonynt, ac yn marchogaeth ar geffylau.