Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Canlyniadau Chwilio romans 15:13

Ioan 15:13 (BCND)

Nid oes gan neb gariad mwy na hyn, sef bod rhywun yn rhoi ei einioes dros ei gyfeillion.

Rhufeiniaid 15:13 (BCND)

A bydded i Dduw, ffynhonnell gobaith, eich llenwi â phob llawenydd a thangnefedd wrth ichwi arfer eich ffydd, nes eich bod, trwy nerth yr Ysbryd Glân, yn gorlifo â gobaith.

Diarhebion 15:13 (BCND)

Y mae calon lawen yn sirioli'r wyneb, ond dryllir yr ysbryd gan boen meddwl.

Jeremeia 15:13 (BCND)

Gwnaf dy gyfoeth a'th drysorau yn anrhaith, nid am bris ond oherwydd dy holl bechod yn dy holl derfynau.

Mathew 15:13 (BCND)

Atebodd yntau, “Pob planhigyn na phlannodd fy Nhad nefol, fe'i diwreiddir.

Marc 15:13 (BCND)

Gwaeddasant hwythau yn ôl, “Croeshoelia ef.”

Luc 15:13 (BCND)

Ychydig ddyddiau yn ddiweddarach, wedi newid y cwbl am arian, ymfudodd y mab ieuengaf i wlad bell, ac yno gwastraffodd ei eiddo ar fyw'n afradlon.

Actau 15:13 (BCND)

Wedi iddynt dewi, dywedodd Iago, “Gyfeillion, gwrandewch arnaf fi.

Genesis 15:13 (BCND)

Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Abram, “Deall di i sicrwydd y bydd dy ddisgynyddion yn ddieithriaid mewn gwlad nad yw'n eiddo iddynt, ac yn gaethweision, ac fe'u cystuddir am bedwar can mlynedd;

Exodus 15:13 (BCND)

“Yn dy drugaredd, arweini'r bobl a waredaist, a thrwy dy nerth eu tywys i'th drigfan sanctaidd.

Lefiticus 15:13 (BCND)

“ ‘Pan fydd rhywun yn cael ei lanhau o'i ddiferlif, y mae i gyfrif saith diwrnod ar gyfer ei lanhau; y mae i olchi ei ddillad, ac ymolchi â dŵr croyw, a bydd yn lân.

Numeri 15:13 (BCND)

Dyma sut y mae'r holl frodorion i offrymu offrwm trwy dân, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD .’

Deuteronomium 15:13 (BCND)

A phan fyddi'n ei ryddhau, paid â'i anfon i ffwrdd yn waglaw;

Josua 15:13 (BCND)

Yn ôl gorchymyn yr ARGLWYDD i Josua, rhoddwyd i Caleb fab Jeffunne randir yn Jwda, sef Ciriath-arba, hynny yw Hebron; tad yr Anaciaid oedd Arba.

Barnwyr 15:13 (BCND)

Dywedodd y gwŷr, “Na, dim ond dy rwymo a wnawn, a'th drosglwyddo iddynt hwy; yn sicr, nid ydym am dy ladd.” Yna rhwymasant ef â dwy raff newydd, a mynd ag ef o'r graig.

Job 15:13 (BCND)

fel yr wyt yn gosod dy ysbryd yn erbyn Duw, ac yn arllwys y geiriau hyn?

1 Corinthiaid 15:13 (BCND)

Os nad oes atgyfodiad y meirw, nid yw Crist wedi ei gyfodi chwaith.

1 Samuel 15:13 (BCND)

Wedi i Samuel ddod o hyd i Saul, dywedodd Saul wrtho, “Bendith yr ARGLWYDD arnat! Yr wyf wedi cadw gorchymyn yr ARGLWYDD .”

2 Samuel 15:13 (BCND)

Daeth rhywun a dweud wrth Ddafydd fod bryd pobl Israel ar Absalom,

1 Brenhinoedd 15:13 (BCND)

At hyn fe ddiswyddodd ei fam Maacha o fod yn fam frenhines, am iddi lunio ffieiddbeth ar gyfer Asera. Drylliodd Asa ei delw a'i llosgi yn nant Cidron.

2 Brenhinoedd 15:13 (BCND)

Yn y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg ar hugain i Usseia brenin Jwda, daeth Salum fab Jabes i'r orsedd, a theyrnasu yn Samaria am fis.

1 Cronicl 15:13 (BCND)

Am nad oeddech chwi gyda ni y tro cyntaf, ac na fuom ninnau yn ymgynghori ag ef ynglŷn â'i drefn, fe dorrodd yr ARGLWYDD ein Duw allan i'n herbyn.”

2 Cronicl 15:13 (BCND)

Yr oedd pwy bynnag a wrthodai geisio ARGLWYDD Dduw Israel i'w roi i farwolaeth, boed fach neu fawr, gŵr neu wraig.

Diarhebion 13:15 (BCND)

Y mae deall da yn ennill ffafr, ond garw yw ffordd y twyllwyr.

Eseia 13:15 (BCND)

Trywenir pob un a geir, a lleddir â'r cleddyf bob un a ddelir.