Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Canlyniadau Chwilio psalm 34:18

Y Salmau 34:18 (BCND)

Y mae'r ARGLWYDD yn agos at y drylliedig o galon ac yn gwaredu'r briwedig o ysbryd.

Y Salmau 34:1 (BCND)

Bendithiaf yr ARGLWYDD bob amser; bydd ei foliant yn wastad yn fy ngenau.

Y Salmau 34:10 (BCND)

Y mae'r anffyddwyr yn dioddef angen ac yn newynu, ond nid yw'r rhai sy'n ceisio'r ARGLWYDD yn brin o ddim da.

Y Salmau 34:11 (BCND)

Dewch, blant, gwrandewch arnaf, dysgaf ichwi ofn yr ARGLWYDD .

Y Salmau 34:12 (BCND)

Pwy ohonoch sy'n dymuno bywyd ac a garai fyw'n hir i fwynhau daioni?

Y Salmau 34:13 (BCND)

Cadw dy dafod rhag drygioni a'th wefusau rhag llefaru celwydd.

Y Salmau 34:14 (BCND)

Tro oddi wrth ddrygioni a gwna dda, ceisia heddwch a'i ddilyn.

Y Salmau 34:15 (BCND)

Y mae llygaid yr ARGLWYDD ar y cyfiawn, a'i glustiau'n agored i'w cri.

Y Salmau 34:16 (BCND)

Y mae wyneb yr ARGLWYDD yn erbyn y rhai sy'n gwneud drwg, i ddileu eu coffa o'r ddaear.

Y Salmau 34:17 (BCND)

Pan waedda'r cyfiawn am gymorth, fe glyw'r ARGLWYDD a'u gwaredu o'u holl gyfyngderau.

Y Salmau 34:19 (BCND)

Llawer o adfyd a gaiff y cyfiawn, ond gwareda'r ARGLWYDD ef o'r cyfan.

Y Salmau 34:2 (BCND)

Yn yr ARGLWYDD yr ymhyfrydaf; bydded i'r gostyngedig glywed a llawenychu.

Y Salmau 34:3 (BCND)

Mawrygwch yr ARGLWYDD gyda mi, a dyrchafwn ei enw gyda'n gilydd.

Y Salmau 34:4 (BCND)

Ceisiais yr ARGLWYDD , ac atebodd fi a'm gwaredu o'm holl ofnau.

Y Salmau 34:5 (BCND)

Y mae'r rhai sy'n edrych arno'n gloywi, ac ni ddaw cywilydd i'w hwynebau.

Y Salmau 34:6 (BCND)

Dyma un isel a waeddodd, a'r ARGLWYDD yn ei glywed ac yn ei waredu o'i holl gyfyngderau.

Y Salmau 34:7 (BCND)

Gwersylla angel yr ARGLWYDD o amgylch y rhai sy'n ei ofni, ac y mae'n eu gwaredu.

Y Salmau 34:8 (BCND)

Profwch, a gwelwch mai da yw'r ARGLWYDD . Gwyn ei fyd y sawl sy'n llochesu ynddo.

Y Salmau 34:9 (BCND)

Ofnwch yr ARGLWYDD , ei saint ef, oherwydd nid oes eisiau ar y rhai a'i hofna.

Y Salmau 34:20 (BCND)

Ceidw ei holl esgyrn, ac ni thorrir yr un ohonynt.

Y Salmau 34:21 (BCND)

Y mae adfyd yn lladd y drygionus, a chosbir y rhai sy'n casáu'r cyfiawn.

Y Salmau 34:22 (BCND)

Y mae'r ARGLWYDD yn gwaredu ei weision, ac ni chosbir y rhai sy'n llochesu ynddo.

Y Salmau 18:1 (BCND)

Caraf di, O ARGLWYDD , fy nghryfder.

Y Salmau 18:2 (BCND)

Yr ARGLWYDD yw fy nghraig, fy nghadernid a'm gwaredydd; fy Nuw yw fy nghraig lle llochesaf, fy nharian, fy amddiffynfa gadarn a'm caer.

Y Salmau 18:3 (BCND)

Gwaeddaf ar yr ARGLWYDD sy'n haeddu mawl, ac fe'm gwaredir rhag fy ngelynion.