Canlyniadau Chwilio psalm 27:8
Y Salmau 27:4 (BCND)
Un peth a ofynnais gan yr ARGLWYDD , dyma'r wyf yn ei geisio: cael byw yn nhŷ'r ARGLWYDD holl ddyddiau fy mywyd, i edrych ar hawddgarwch yr ARGLWYDD ac i ymofyn yn ei deml.
Y Salmau 27:14 (BCND)
Disgwyl wrth yr ARGLWYDD , bydd gryf a gwrol dy galon a disgwyl wrth yr ARGLWYDD .
Y Salmau 27:8 (BCND)
Dywedodd fy nghalon amdanat, “Ceisia ei wyneb ”; am hynny ceisiaf dy wyneb, O ARGLWYDD .
Y Salmau 27:1 (BCND)
Yr ARGLWYDD yw fy ngoleuni a'm gwaredigaeth, rhag pwy yr ofnaf? Yr ARGLWYDD yw cadernid fy mywyd, rhag pwy y dychrynaf?
Y Salmau 27:2 (BCND)
Pan fydd rhai drwg yn cau amdanaf i'm hysu i'r byw, hwy, fy ngwrthwynebwyr a'm gelynion, fydd yn baglu ac yn syrthio.
Y Salmau 27:3 (BCND)
Pe bai byddin yn gwersyllu i'm herbyn, nid ofnai fy nghalon; pe dôi rhyfel ar fy ngwarthaf, eto, fe fyddwn yn hyderus.
Y Salmau 27:5 (BCND)
Oherwydd fe'm ceidw yn ei gysgod yn nydd adfyd, a'm cuddio i mewn yn ei babell, a'm codi ar graig.
Y Salmau 27:6 (BCND)
Ac yn awr, fe gyfyd fy mhen goruwch fy ngelynion o'm hamgylch; ac offrymaf finnau yn ei deml aberthau llawn gorfoledd; canaf, canmolaf yr ARGLWYDD .
Y Salmau 27:7 (BCND)
Gwrando arnaf, ARGLWYDD , pan lefaf; bydd drugarog wrthyf, ac ateb fi.
Y Salmau 27:9 (BCND)
Paid â chuddio dy wyneb oddi wrthyf, na throi ymaith dy was mewn dicter, oherwydd buost yn gymorth i mi; paid â'm gwrthod na'm gadael, O Dduw, fy Ngwaredwr.
Y Salmau 27:10 (BCND)
Pe bai fy nhad a'm mam yn cefnu arnaf, byddai'r ARGLWYDD yn fy nerbyn.
Y Salmau 27:11 (BCND)
Dysg i mi dy ffordd, O ARGLWYDD , arwain fi ar hyd llwybr union, oherwydd fy ngwrthwynebwyr.
Y Salmau 27:12 (BCND)
Paid â'm gadael i fympwy fy ngelynion, oherwydd cododd yn f'erbyn dystion celwyddog sy'n bygwth trais.
Y Salmau 27:13 (BCND)
Yr wyf yn sicr y caf weld daioni'r ARGLWYDD yn nhir y rhai byw.
Y Salmau 8:1 (BCND)
O ARGLWYDD , ein Iôr, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear! Gosodaist dy ogoniant uwch y nefoedd,
Y Salmau 8:2 (BCND)
codaist amddiffyn rhag dy elynion o enau babanod a phlant sugno, a thawelu'r gelyn a'r dialydd.
Y Salmau 8:3 (BCND)
Pan edrychaf ar y nefoedd, gwaith dy fysedd, y lloer a'r sêr, a roddaist yn eu lle,
Y Salmau 8:4 (BCND)
beth yw meidrolyn, iti ei gofio, a'r teulu dynol, iti ofalu amdano?
Y Salmau 8:5 (BCND)
Eto gwnaethost ef ychydig islaw duw a'i goroni â gogoniant ac anrhydedd.
Y Salmau 8:6 (BCND)
Rhoist iddo awdurdod ar waith dy ddwylo, a gosod popeth dan ei draed:
Y Salmau 8:7 (BCND)
defaid ac ychen i gyd, yr anifeiliaid gwylltion hefyd,
Y Salmau 8:8 (BCND)
adar y nefoedd, a physgod y môr, a phopeth sy'n tramwyo llwybrau'r dyfroedd.
Y Salmau 8:9 (BCND)
O ARGLWYDD , ein Iôr, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear!
Diarhebion 27:8 (BCND)
Fel aderyn yn crwydro o'i nyth, felly y mae rhywun sy'n crwydro o'i gynefin.
Eseia 27:8 (BCND)
Trwy symud ymaith a bwrw allan, yr wyt yn ei barnu, ac yn ei hymlid â gwynt creulon pan gyfyd o'r dwyrain.