Canlyniadau Chwilio exodus 3:1
Exodus 3:1 (BCND)
Yr oedd Moses yn bugeilio defaid ei dad-yng-nghyfraith Jethro, offeiriad Midian, ac wrth iddo arwain y praidd ar hyd cyrion yr anialwch, daeth i Horeb, mynydd Duw.
Exodus 3:10 (BCND)
Tyrd, yr wyf yn dy anfon at Pharo er mwyn iti arwain fy mhobl, yr Israeliaid, allan o'r Aifft.”
Exodus 3:11 (BCND)
Ond gofynnodd Moses i Dduw, “Pwy wyf fi i fynd at Pharo ac arwain pobl Israel allan o'r Aifft?”
Exodus 3:12 (BCND)
Dywedodd yntau, “Byddaf fi gyda thi; a dyma fydd yr arwydd mai myfi sydd wedi dy anfon: wedi iti arwain y bobl allan o'r Aifft, byddwch yn addoli Duw ar y mynydd hwn.”
Exodus 3:13 (BCND)
Yna dywedodd Moses wrth Dduw, “Os af at bobl Israel a dweud wrthynt, ‘Y mae Duw eich hynafiaid wedi fy anfon atoch’, beth a ddywedaf wrthynt os gofynnant am ei enw?”
Exodus 3:14 (BCND)
Dywedodd Duw wrth Moses, “Ydwyf yr hyn ydwyf. Dywed hyn wrth bobl Israel, ‘Ydwyf sydd wedi fy anfon atoch.’ ”
Exodus 3:15 (BCND)
Dywedodd Duw eto wrth Moses, “Dywed hyn wrth bobl Israel, ‘Yr ARGLWYDD , Duw eich tadau, Duw Abraham, Duw Isaac a Duw Jacob sydd wedi fy anfon atoch.’ Dyma fydd fy enw am byth, ac fel hyn y cofir amdanaf gan bob cenhedlaeth.
Exodus 3:16 (BCND)
Dos, a chynnull ynghyd henuriaid Israel, a dywed wrthynt, ‘Y mae'r ARGLWYDD , Duw eich tadau, Duw Abraham, Isaac a Jacob, wedi ymddangos i mi a dweud: Yr wyf wedi ymweld â chwi ac edrych ar yr hyn a wnaed i chwi yn yr Aifft,
Exodus 3:17 (BCND)
ac yr wyf wedi penderfynu eich arwain allan o adfyd yr Aifft i wlad y Canaaneaid, Hethiaid, Amoriaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebusiaid, gwlad yn llifeirio o laeth a mêl.’
Exodus 3:18 (BCND)
Bydd henuriaid Israel yn gwrando arnat; dos dithau gyda hwy at frenin yr Aifft a dweud wrtho, ‘Y mae'r ARGLWYDD , Duw'r Hebreaid, wedi ymweld â ni; yn awr gad inni fynd daith dridiau i'r anialwch er mwyn inni aberthu i'r ARGLWYDD ein Duw.’
Exodus 3:19 (BCND)
Ond yr wyf yn gwybod na fydd brenin yr Aifft yn caniatáu i chwi fynd oni orfodir ef â llaw gadarn.
Exodus 3:2 (BCND)
Yno ymddangosodd angel yr ARGLWYDD iddo mewn fflam dân o ganol perth. Edrychodd yntau a gweld y berth ar dân ond heb ei difa.
Exodus 3:3 (BCND)
Dywedodd Moses, “Yr wyf am droi i edrych ar yr olygfa ryfedd hon, pam nad yw'r berth wedi llosgi.”
Exodus 3:4 (BCND)
Pan welodd yr ARGLWYDD ei fod wedi troi i edrych, galwodd Duw arno o ganol y berth, “Moses, Moses.” Atebodd yntau, “Dyma fi.”
Exodus 3:5 (BCND)
Yna dywedodd Duw, “Paid â dod ddim nes; tyn dy esgidiau oddi am dy draed, oherwydd y mae'r llecyn yr wyt yn sefyll arno yn dir sanctaidd.”
Exodus 3:6 (BCND)
Dywedodd hefyd, “Duw dy dadau wyf fi, Duw Abraham, Duw Isaac a Duw Jacob.” Cuddiodd Moses ei wyneb, oherwydd yr oedd arno ofn edrych ar Dduw.
Exodus 3:7 (BCND)
Yna dywedodd yr ARGLWYDD , “Yr wyf wedi gweld adfyd fy mhobl yn yr Aifft a chlywed eu gwaedd o achos eu meistri gwaith, a gwn am eu doluriau.
Exodus 3:8 (BCND)
Yr wyf wedi dod i'w gwaredu o law'r Eifftiaid, a'u harwain o'r wlad honno i wlad ffrwythlon ac eang, gwlad yn llifeirio o laeth a mêl, cartref y Canaaneaid, Hethiaid, Amoriaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebusiaid.
Exodus 3:9 (BCND)
Yn awr y mae gwaedd pobl Israel wedi dod ataf, ac yr wyf wedi gweld fel y bu'r Eifftiaid yn eu gorthrymu.
Exodus 3:20 (BCND)
Felly, estynnaf fy llaw a tharo'r Eifftiaid â'r holl ryfeddodau a wnaf yn eu plith; wedi hynny, bydd yn eich gollwng yn rhydd.
Exodus 3:21 (BCND)
Gwnaf i'r Eifftiaid edrych yn ffafriol ar y bobl hyn, a phan fyddwch yn ymadael, nid ewch yn waglaw,
Exodus 3:22 (BCND)
oherwydd bydd pob gwraig yn gofyn i'w chymdoges neu i unrhyw un yn ei thŷ am dlysau o arian ac o aur, a dillad. Gwisgwch hwy am eich meibion a'ch merched, ac ysbeiliwch yr Aifft.”
Exodus 1:1 (BCND)
Dyma enwau meibion Israel a aeth i'r Aifft gyda Jacob, pob un gyda'i deulu:
Exodus 1:2 (BCND)
Reuben, Simeon, Lefi a Jwda,
Exodus 1:3 (BCND)
Issachar, Sabulon a Benjamin,