Canlyniadau Chwilio exodus 16
Exodus 16:1 (BCND)
Aeth holl gynulliad pobl Israel ymaith o Elim, ac ar y pymthegfed dydd o'r ail fis wedi iddynt adael gwlad yr Aifft, daethant i anialwch Sin, sydd rhwng Elim a Sinai.
Exodus 16:2 (BCND)
Dechreuodd holl gynulliad pobl Israel rwgnach yn erbyn Moses ac Aaron yn yr anialwch,
Exodus 16:3 (BCND)
a dweud wrthynt, “O na fyddai'r ARGLWYDD wedi gadael inni farw yng ngwlad yr Aifft, lle'r oeddem yn cael eistedd wrth y crochanau cig a bwyta ein gwala o fwyd; ond yr ydych chwi wedi ein harwain allan yma i'r anialwch er mwyn lladd y dyrfa hon i gyd â newyn.”
Exodus 16:4 (BCND)
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Byddaf yn glawio arnoch fara o'r nefoedd, a bydd y bobl yn mynd allan a chasglu bob dydd ddogn diwrnod, er mwyn i mi eu profi a gweld a ydynt am ddilyn fy nghyfraith ai peidio.
Exodus 16:5 (BCND)
Ond ar y chweched dydd y maent i baratoi dwywaith cymaint ag y byddent yn ei gasglu ar ddiwrnod arall.”
Exodus 16:6 (BCND)
Yna dywedodd Moses ac Aaron wrth yr holl Israeliaid, “Yn yr hwyr cewch wybod mai'r ARGLWYDD a'ch arweiniodd allan o wlad yr Aifft,
Exodus 16:7 (BCND)
ac yn y bore cewch weld ei ogoniant, oherwydd y mae wedi clywed eich grwgnach yn ei erbyn. Pwy ydym ni, eich bod yn grwgnach yn ein herbyn?”
Exodus 16:8 (BCND)
Dywedodd Moses hefyd, “Fe rydd yr ARGLWYDD i chwi gig i'w fwyta yn yr hwyr, a'ch gwala o fara yn y bore, oherwydd y mae wedi clywed eich grwgnach yn ei erbyn. Felly, pwy ydym ni? Nid yn ein herbyn ni y mae eich grwgnach, ond yn erbyn yr ARGLWYDD .”
Exodus 16:9 (BCND)
Dywedodd Moses wrth Aaron, “Dywed wrth holl gynulliad pobl Israel, ‘Dewch yn agos at yr ARGLWYDD , oherwydd y mae ef wedi clywed eich grwgnach.’ ”
Exodus 16:10 (BCND)
A thra oedd Aaron yn siarad â hwy, a hwythau'n edrych tua'r anialwch, ymddangosodd gogoniant yr ARGLWYDD mewn cwmwl.
Exodus 16:11 (BCND)
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
Exodus 16:12 (BCND)
“Yr wyf wedi clywed grwgnach yr Israeliaid; dywed wrthynt, ‘Yn y cyfnos cewch fwyta cig, ac yn y bore cewch eich gwala o fara; yna byddwch yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.’ ”
Exodus 16:13 (BCND)
Yn yr hwyr daeth soflieir a gorchuddio'r gwersyll, ac yn y bore yr oedd haen o wlith o'i amgylch.
Exodus 16:14 (BCND)
Pan gododd y gwlith, yr oedd caenen denau ar hyd wyneb yr anialwch, mor denau â llwydrew ar y ddaear.
Exodus 16:15 (BCND)
Gwelodd yr Israeliaid ef, a dweud wrth ei gilydd, “Beth yw hwn? ” Oherwydd nid oeddent yn gwybod beth ydoedd. Dywedodd Moses wrthynt, “Hwn yw'r bara a roddodd yr ARGLWYDD i chwi i'w fwyta.
Exodus 16:16 (BCND)
Dyma a orchmynnodd yr ARGLWYDD : ‘Y mae pob un i gasglu ohono gymaint ag a all ei fwyta; cymerwch omer yr un ar gyfer pawb sydd yn eich pabell.’ ”
Exodus 16:17 (BCND)
Gwnaeth yr Israeliaid hyn; yr oedd rhai'n casglu llawer, eraill ychydig,
Exodus 16:18 (BCND)
ac wedi iddynt ei fesur wrth yr omer, nid oedd gormod gan y sawl a gasglodd lawer, na phrinder gan y sawl a gasglodd ychydig. Yr oedd pob un yn casglu cymaint ag a allai ei fwyta.
Exodus 16:19 (BCND)
Dywedodd Moses wrthynt, “Peidied neb â chadw dim ohono'n weddill hyd drannoeth.”
Exodus 16:20 (BCND)
Ond ni wrandawsant arno, a chadwodd rhai beth ohono'n weddill hyd drannoeth; magodd bryfed, a dechreuodd ddrewi, ac yr oedd Moses yn ddig wrthynt.
Exodus 16:21 (BCND)
Casglasant bob bore gymaint ag a allent ei fwyta, ond pan boethai'r haul, fe doddai.
Exodus 16:22 (BCND)
Ar y chweched dydd casglasant ddwywaith cymaint o fara, dau omer yr un, a daeth holl swyddogion y cynulliad at Moses i fynegi hyn iddo.
Exodus 16:23 (BCND)
Dywedodd yntau wrthynt, “Dyma a orchmynnodd yr ARGLWYDD : ‘Bydd yfory yn ddydd o orffwys, ac yn Saboth wedi ei gysegru i'r ARGLWYDD .’ Felly pobwch yr hyn y bydd ei angen arnoch, a berwi'r hyn y bydd arnoch ei eisiau; yna rhowch o'r neilltu bopeth sydd yn weddill, a chadwch ef hyd y bore.”
Exodus 16:24 (BCND)
Fe'i cadwasant hyd y bore, fel yr oedd Moses wedi gorchymyn, ac ni ddrewodd na magu pryfed.
Exodus 16:25 (BCND)
Yna dywedodd Moses, “Bwytewch ef heddiw, oherwydd y mae'r dydd hwn yn Saboth i'r ARGLWYDD ; ni chewch mohono yn y maes heddiw.