Canlyniadau Chwilio ephesians 6:12
Mathew 6:12 (BCND)
a maddau inni ein troseddau , fel yr ŷm ni wedi maddau i'r rhai a droseddodd yn ein herbyn;
Effesiaid 6:12 (BCND)
Nid â meidrolion yr ydym yn yr afael, ond â thywysogaethau ac awdurdodau, â llywodraethwyr tywyllwch y byd hwn, â phwerau ysbrydol drygionus yn y nefolion leoedd.
Diarhebion 6:12 (BCND)
Un dieflig, un drwg, sy'n taenu geiriau dichellgar,
Eseia 6:12 (BCND)
nes y bydd yr ARGLWYDD wedi gyrru pawb ymhell, a difrod mawr yng nghanol y wlad.
Jeremeia 6:12 (BCND)
Trosglwyddir eu tai i eraill, a'u meysydd a'u gwragedd ynghyd; canys estynnaf fy llaw ar drigolion y wlad,” medd yr ARGLWYDD .
Eseciel 6:12 (BCND)
Bydd yr un sydd ymhell yn marw o haint, yr un agos yn syrthio trwy'r cleddyf, a'r un a adawyd ac a arbedwyd yn marw o newyn; ac yna fe gyflawnaf fy llid yn eu herbyn.
Daniel 6:12 (BCND)
Yna aethant at y brenin a'i atgoffa am ei orchymyn: “Onid wyt wedi arwyddo gorchymyn fod pob un sydd, o fewn deg diwrnod ar hugain, yn gweddïo ar unrhyw dduw neu ddyn ar wahân i ti, O frenin, i'w daflu i ffau'r llewod?” Atebodd y brenin, “Dyna'r gorchymyn, yn unol â chyfraith ddigyfnewid y Mediaid a'r Persiaid.”
Amos 6:12 (BCND)
A garlama meirch ar graig? A ellir aredig môr ag ychen? Ond troesoch chwi farn yn wenwyn, a ffrwyth cyfiawnder yn wermod.
Micha 6:12 (BCND)
Y mae ei chyfoethogion yn llawn trais, a'i thrigolion yn dweud celwydd, a thafodau ffals yn eu genau.
Sechareia 6:12 (BCND)
a dweud wrtho, ‘Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: Wele'r dyn a'i enw Blaguryn, oherwydd blagura o'i gyff ac adeiladu teml yr ARGLWYDD .
Marc 6:12 (BCND)
Felly aethant allan a phregethu ar i bobl edifarhau,
Luc 6:12 (BCND)
Un o'r dyddiau hynny aeth allan i'r mynydd i weddïo, a bu ar hyd y nos yn gweddïo ar Dduw.
Ioan 6:12 (BCND)
A phan oeddent wedi cael digon, meddai wrth ei ddisgyblion, “Casglwch y tameidiau sy'n weddill, rhag i ddim fynd yn wastraff.”
Actau 6:12 (BCND)
A chynyrfasant y bobl a'r henuriaid a'r ysgrifenyddion, ac ymosod arno a'i gipio a dod ag ef gerbron y Sanhedrin,
Rhufeiniaid 6:12 (BCND)
Felly, nid yw pechod i deyrnasu yn eich corff marwol a'ch gorfodi i ufuddhau i'w chwantau.
Galatiaid 6:12 (BCND)
Rhai â'u bryd ar rodres yn y cnawd yw'r rheini sy'n ceisio eich gorfodi i dderbyn enwaediad, a hynny'n unig er mwyn iddynt hwy arbed cael eu herlid o achos croes Crist.
Genesis 6:12 (BCND)
A gwelodd Duw fod y ddaear yn llygredig, am fod bywyd pob peth byw ar y ddaear wedi ei lygru.
Exodus 6:12 (BCND)
Ond dywedodd Moses wrth yr ARGLWYDD , “Nid yw pobl Israel wedi gwrando arnaf; sut, felly, y bydd Pharo yn gwrando arnaf, a minnau â nam ar fy lleferydd?”
Lefiticus 6:12 (BCND)
Rhaid cadw'r tân i losgi ar yr allor; nid yw i ddiffodd. Y mae'r offeiriad i roi coed arni bob bore, gosod y poethoffrwm arni a llosgi braster yr heddoffrwm.
Numeri 6:12 (BCND)
ac yn ymgysegru i'r ARGLWYDD ar gyfer ei ddyddiau fel Nasaread, a daw ag oen gwryw yn offrwm dros gamwedd; diddymir ei ddyddiau blaenorol fel Nasaread oherwydd iddo gael ei halogi.
Deuteronomium 6:12 (BCND)
gofala na fyddi'n anghofio'r ARGLWYDD dy Dduw a ddaeth â thi allan o wlad yr Aifft, o dŷ caethiwed.
Josua 6:12 (BCND)
Cododd Josua'n fore, a chymerodd yr offeiriaid arch yr ARGLWYDD ;
Barnwyr 6:12 (BCND)
Ymddangosodd angel yr ARGLWYDD iddo a dweud wrtho, “Y mae'r ARGLWYDD gyda thi, ŵr dewr.”
Esra 6:12 (BCND)
A bydded i'r Duw sydd wedi gosod ei enw yno ddymchwel pob brenin a chenedl sy'n beiddio ymyrryd â hyn neu'n dinistrio tŷ'r Duw hwn yn Jerwsalem. Myfi, Dareius, sy'n rhoi'r gorchymyn hwn; rhaid ei gadw'n fanwl.”
Nehemeia 6:12 (BCND)
Yna sylweddolais nad Duw oedd wedi ei anfon, ond ei fod wedi proffwydo fel hyn yn ein herbyn am fod Tobeia a Sanbalat wedi ei lwgrwobrwyo.