Canlyniadau Chwilio ephesians 3:20
Effesiaid 3:20 (BCND)
Iddo ef, sydd â'r gallu ganddo i wneud yn anhraethol well na dim y gallwn ni ei ddeisyfu na'i ddychmygu, trwy'r gallu sydd ar waith ynom ni,
Diarhebion 3:20 (BCND)
trwy ei ddeall y ffrydiodd y dyfnderau, ac y defnynna'r cymylau wlith.
Eseia 3:20 (BCND)
y penwisgoedd, y cadwyni, y gwregys, y blychau perarogl, y mân swyndlysau;
Jeremeia 3:20 (BCND)
Yn ddiau, fel y bydd gwraig yn anffyddlon i'w chymar, felly, dŷ Israel, y buoch yn anffyddlon i mi,” medd yr ARGLWYDD .
Galarnad 3:20 (BCND)
Yr wyf fi yn ei gofio'n wastad, ac wedi fy narostwng.
Eseciel 3:20 (BCND)
Os bydd un cyfiawn yn troi oddi wrth gyfiawnder ac yn gwneud drwg, a minnau wedi rhoi rhwystr o'i flaen, bydd farw; am na rybuddiaist ef, bydd farw am ei gamwedd, ac ni chofir y pethau cyfiawn a wnaeth; ond byddaf yn dy ddal di yn gyfrifol am ei waed.
Daniel 3:20 (BCND)
Gorchmynnodd dwymo'r ffwrnais yn seithwaith poethach nag arfer, ac i filwyr praff o'i fyddin rwymo Sadrach, Mesach ac Abednego a'u taflu i'r ffwrnais dân.
Joel 3:20 (BCND)
Ond erys Jwda dros byth a Jerwsalem dros genedlaethau.
Seffaneia 3:20 (BCND)
Y pryd hwnnw, pan fydd yn amser i'ch casglu, mi ddof â chwi adref; oherwydd rhof i chwi glod ac enw ymhlith holl bobloedd y ddaear, pan adferaf eich llwyddiant yn eich gŵydd,” medd yr ARGLWYDD .
Marc 3:20 (BCND)
Daeth i'r tŷ; a dyma'r dyrfa'n ymgasglu unwaith eto, nes eu bod yn methu cymryd pryd o fwyd hyd yn oed.
Luc 3:20 (BCND)
ychwanegodd Herod y drygioni hwn at y cwbl, sef cloi Ioan yng ngharchar.
Ioan 3:20 (BCND)
Oherwydd y mae pob un sy'n gwneud drwg yn casáu'r goleuni, ac nid yw'n dod at y goleuni rhag ofn i'w weithredoedd gael eu dadlennu.
Actau 3:20 (BCND)
ac yr anfona ef y Meseia a benodwyd i chwi, sef Iesu,
Rhufeiniaid 3:20 (BCND)
Oherwydd, “gerbron Duw ni chyfiawnheir neb meidrol” trwy gadw gofynion cyfraith. Yr hyn a geir trwy'r Gyfraith yw ymwybyddiaeth o bechod.
Galatiaid 3:20 (BCND)
Ond nid oes angen canolwr lle nad oes ond un; ac un yw Duw.
Philipiaid 3:20 (BCND)
Oherwydd yn y nefoedd y mae ein dinasyddiaeth ni, ac oddi yno hefyd yr ydym yn disgwyl Gwaredwr, sef yr Arglwydd Iesu Grist.
Genesis 3:20 (BCND)
Rhoddodd y dyn i'w wraig yr enw Efa, am mai hi oedd mam pob un byw.
Exodus 3:20 (BCND)
Felly, estynnaf fy llaw a tharo'r Eifftiaid â'r holl ryfeddodau a wnaf yn eu plith; wedi hynny, bydd yn eich gollwng yn rhydd.
Numeri 3:20 (BCND)
Meibion Merari yn ôl eu tylwythau: Mahli a Musi. Dyma dylwythau'r Lefiaid, yn ôl eu teuluoedd.
Deuteronomium 3:20 (BCND)
nes y bydd yr ARGLWYDD wedi rhoi diogelwch i'ch perthnasau, fel y rhoddodd i chwi; yna byddant hwythau yn meddiannu'r wlad a roddodd yr ARGLWYDD eich Duw iddynt y tu hwnt i'r Iorddonen. Yna caiff pob un ohonoch fynd yn ôl i'r diriogaeth a roddais i chwi.”
Barnwyr 3:20 (BCND)
Galwodd yntau am dawelwch, ac aeth pawb oedd yn sefyll o'i gwmpas allan. Yna nesaodd Ehud ato, ac yntau'n eistedd wrtho'i hunan mewn ystafell haf oedd ganddo ar y to, a dywedodd, “Gair gan Dduw sydd gennyf iti.” Cododd yntau oddi ar ei sedd.
Nehemeia 3:20 (BCND)
Ar ei ôl ef atgyweiriodd Baruch fab Sabai ddwy ran, o'r drofa hyd at ddrws tŷ Eliasib yr archoffeiriad.
Job 3:20 (BCND)
Pam y rhoddir goleuni i'r gorthrymedig a bywyd i'r chwerw ei ysbryd,
Colosiaid 3:20 (BCND)
Chwi blant, ufuddhewch i'ch rhieni ym mhob peth, oherwydd hyn sydd gymeradwy ym mhobl yr Arglwydd.
Datguddiad 3:20 (BCND)
Wele, yr wyf yn sefyll wrth y drws ac yn curo; os clyw rhywun fy llais ac agor y drws, dof i mewn ato, a bydd y ddau ohonom yn cydfwyta gyda'n gilydd.