Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Canlyniadau Chwilio christ is coming soon

Actau 1:11 (BCND)

ac meddai'r rhain, “Wŷr Galilea, pam yr ydych yn sefyll yn edrych tua'r nef? Bydd yr Iesu hwn, sydd wedi ei gymryd i fyny oddi wrthych i'r nef, yn dod yn yr un modd ag y gwelsoch ef yn mynd i'r nef.”

Mathew 24:3 (BCND)

Fel yr oedd yn eistedd ar Fynydd yr Olewydd daeth y disgyblion ato o'r neilltu a gofyn, “Dywed wrthym pa bryd y bydd hyn, a beth fydd yr arwydd o'th ddyfodiad ac o ddiwedd amser?”

Marc 13:32 (BCND)

“Ond am y dydd hwnnw neu'r awr ni ŵyr neb, na'r angylion yn y nef, na'r Mab, neb ond y Tad.

Luc 21:27 (BCND)

A'r pryd hwnnw gwelant Fab y Dyn yn dyfod mewn cwmwl gyda nerth a gogoniant mawr.

Ioan 14:3 (BCND)

Ac os af a pharatoi lle i chwi, fe ddof yn ôl, a'ch cymryd chwi ataf fy hun, er mwyn i chwithau fod lle'r wyf fi.

1 Thesaloniaid 4:16 (BCND)

Oherwydd pan floeddir y gorchymyn, pan fydd yr archangel yn galw ac utgorn Duw yn seinio, bydd yr Arglwydd ei hun yn disgyn o'r nef; bydd y meirw yng Nghrist yn atgyfodi yn gyntaf,

1 Thesaloniaid 4:17 (BCND)

ac yna byddwn ni, y rhai byw a fydd wedi eu gadael, yn cael ein cipio i fyny gyda hwy yn y cymylau, i gyfarfod â'r Arglwydd yn yr awyr; ac felly byddwn gyda'r Arglwydd yn barhaus.

1 Thesaloniaid 5:2 (BCND)

Oherwydd yr ydych yn gwybod yn iawn mai fel lleidr yn y nos y daw Dydd yr Arglwydd.

1 Thesaloniaid 5:6 (BCND)

Am hynny, rhaid inni beidio â chysgu, fel y rhelyw, ond bod yn effro a sobr.

2 Thesaloniaid 2:1 (BCND)

Ynglŷn â dyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist, a'n cydgynnull ni ato ef, yr wyf yn deisyf arnoch, gyfeillion,

2 Thesaloniaid 2:2 (BCND)

beidio â chymryd eich ysgwyd yn ddisymwth allan o'ch pwyll, na'ch cynhyrfu gan ddatganiad ysbryd, neu air, neu lythyr yn honni ei fod oddi wrthym ni, i'r perwyl fod Dydd yr Arglwydd eisoes wedi dod.

2 Thesaloniaid 2:7 (BCND)

Oherwydd y mae grym dirgelwch anghyfraith eisoes ar waith, eithr dim ond nes y bydd yr hwn sydd yn awr yn ei ddal yn ôl wedi ei symud o'r ffordd.

Datguddiad 1:7 (BCND)

Wele, y mae'n dyfod gyda'r cymylau, a bydd pob llygad yn ei weld, ie, a'r rhai a'i trywanodd, a bydd holl lwythau'r ddaear yn galaru o'i blegid ef. Boed felly! Amen.

Datguddiad 22:7 (BCND)

Ac wele, yr wyf yn dod yn fuan. Gwyn ei fyd y sawl sy'n cadw geiriau proffwydoliaeth y llyfr hwn.”

Datguddiad 22:12 (BCND)

“Wele, yr wyf yn dod yn fuan, a'm gwobr gyda mi i'w rhoi i bob un yn ôl ei weithredoedd.

Datguddiad 22:20 (BCND)

Y mae'r sawl sy'n tystiolaethu i'r pethau hyn yn dweud, “Yn wir, yr wyf yn dod yn fuan.” Amen. Tyrd, Arglwydd Iesu!

Datguddiad 3:11 (BCND)

Yr wyf yn dod yn fuan; glyna wrth yr hyn sydd gennyt, rhag i neb ddwyn dy goron di.

Mathew 25:13 (BCND)

Byddwch wyliadwrus gan hynny, oherwydd ni wyddoch na'r dydd na'r awr.

1 Corinthiaid 1:7 (BCND)

Oherwydd hyn, nid ydych yn ddiffygiol mewn unrhyw ddawn, wrth ichwi ddisgwyl am ddatguddiad ein Harglwydd Iesu Grist.

Titus 2:13 (BCND)

a disgwyl cyflawni'r gobaith gwynfydedig yn ymddangosiad gogoniant ein Duw mawr a'n Gwaredwr, Iesu Grist.

1 Pedr 1:7 (BCND)

Y mae hyn wedi digwydd er mwyn i ddilysrwydd eich ffydd chwi, sy'n fwy gwerthfawr na'r aur sy'n darfod—ac y mae hwnnw'n cael ei brofi trwy dân—gael ei amlygu er mawl a gogoniant ac anrhydedd pan ddatguddir Iesu Grist.

1 Pedr 4:7 (BCND)

Y mae diwedd pob peth ar ein gwarthaf. Am hynny, ymbwyllwch ac ymddisgyblwch i weddïo.

2 Pedr 3:10 (BCND)

Fe ddaw Dydd yr Arglwydd fel lleidr, a'r Dydd hwnnw bydd y nefoedd yn diflannu â thrwst, a'r elfennau yn ymddatod gan wres, a'r ddaear a phopeth sydd ynddi yn peidio â bod.

1 Ioan 2:28 (BCND)

Ac yn awr, blant, arhoswch ynddo ef, er mwyn inni, pan fydd ef yn ymddangos, gael hyder a bod heb gywilydd arnom ger ei fron ef ar ei ddyfodiad.