Canlyniadau Chwilio John 15:5
Ioan 15:5 (BCND)
Myfi yw'r winwydden; chwi yw'r canghennau. Y mae'r sawl sydd yn aros ynof fi, a minnau ynddo yntau, yn dwyn llawer o ffrwyth, oherwydd ar wahân i mi ni allwch wneud dim.
Diarhebion 15:5 (BCND)
Diystyra'r ffôl ddisgyblaeth ei dad, ond deallus yw'r un a rydd sylw i gerydd.
Eseia 15:5 (BCND)
Y mae fy nghalon yn llefain dros Moab. Bydd ei ffoaduriaid yn mynd mor bell â Soar, hyd Eglath-shalisheia; dringant riw Luhith dan wylo, a thorri calon ar ffordd Horonaim.
Jeremeia 15:5 (BCND)
“Pwy a drugarha wrthyt, O Jerwsalem? Pwy a gydymdeimla â thi? Pwy a ddaw heibio i ymofyn amdanat?
Eseciel 15:5 (BCND)
Os na ellid gwneud dim defnyddiol ohoni pan oedd yn gyfan, pa faint llai y gwneir dim defnyddiol ohoni wedi i'r tân ei difa ac iddi olosgi?
Mathew 15:5 (BCND)
Ond yr ydych chwi'n dweud, ‘Os dywed rhywun wrth ei dad neu ei fam, “Offrwm i Dduw yw beth bynnag y gallasit ei dderbyn yn gymorth gennyf fi”, ni chaiff anrhydeddu ei dad .’
Marc 15:5 (BCND)
Ond nid atebodd Iesu ddim mwy, er syndod i Pilat.
Luc 15:5 (BCND)
Wedi dod o hyd iddi y mae'n ei gosod ar ei ysgwyddau yn llawen,
Actau 15:5 (BCND)
Ond cododd rhai credinwyr oedd o sect y Phariseaid, a dweud, “Y mae'n rhaid enwaedu arnynt, a gorchymyn iddynt gadw Cyfraith Moses.”
Rhufeiniaid 15:5 (BCND)
A rhodded Duw, ffynhonnell pob dyfalbarhad ac anogaeth, i chwi fod yn gytûn eich meddwl ymhlith eich gilydd, yn ôl ewyllys Crist Iesu,
Genesis 15:5 (BCND)
Aeth ag ef allan a dywedodd, “Edrych tua'r nefoedd, a rhifa'r sêr os gelli.” Yna dywedodd wrtho, “Felly y bydd dy ddisgynyddion.”
Exodus 15:5 (BCND)
Daeth llifogydd i'w gorchuddio, a disgynasant i'r dyfnderoedd fel carreg.
Lefiticus 15:5 (BCND)
Y mae unrhyw un a gyffyrddodd â'i wely i olchi ei ddillad, i ymolchi â dŵr a bod yn aflan hyd yr hwyr.
Numeri 15:5 (BCND)
y mae hefyd i baratoi gyda'r poethoffrwm chwarter hin o win yn ddiodoffrwm a'i gyflwyno gyda phob oen a offrymir yn aberth.
Deuteronomium 15:5 (BCND)
ond iti wrando'n ofalus ar lais yr ARGLWYDD dy Dduw, i gadw'n ddyfal yr holl orchymyn hwn yr wyf fi yn ei roi iti heddiw.
Josua 15:5 (BCND)
Y terfyn i'r dwyrain oedd y Môr Marw, cyn belled ag aber yr Iorddonen. Yr oedd y terfyn gogleddol yn ymestyn o gilfach y môr, ger aber yr Iorddonen,
Barnwyr 15:5 (BCND)
Yna wedi iddo gynnau'r ffaglau, gyrrodd hwy drwy gnydau'r Philistiaid, a llosgi'r styciau a'r ŷd oedd heb ei dorri a'r gerddi olewydd.
Job 15:5 (BCND)
Oherwydd dy gamwedd sy'n hyfforddi dy enau, ac ymadrodd y cyfrwys a ddewisi.
Datguddiad 15:5 (BCND)
Ar ôl hyn edrychais, ac agorwyd teml pabell y dystiolaeth yn y nef.
1 Corinthiaid 15:5 (BCND)
ac iddo ymddangos i Ceffas, ac yna i'r Deuddeg.
1 Samuel 15:5 (BCND)
Pan ddaeth Saul at ddinas yr Amaleciaid, ymguddiodd mewn cwm,
2 Samuel 15:5 (BCND)
Pan fyddai unrhyw un yn agosáu i ymgrymu iddo, byddai ef yn estyn ei law, yn gafael ynddo ac yn ei gusanu.
1 Brenhinoedd 15:5 (BCND)
am fod Dafydd wedi gwneud yr hyn oedd yn uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD , heb wyro oddi wrth ddim a orchmynnodd iddo drwy ei oes, ar wahân i achos Ureia'r Hethiad.
2 Brenhinoedd 15:5 (BCND)
Trawodd yr ARGLWYDD y brenin, a bu'n wahanglwyfus hyd ddydd ei farw, yn byw o'r neilltu yn ei dŷ, a Jotham mab y brenin yn oruchwyliwr y palas ac yn rheoli pobl y wlad.
1 Cronicl 15:5 (BCND)
o feibion Cohath, Uriel y pennaeth a chant ac ugain o'i frodyr;