Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Canlyniadau Chwilio Isa��as 41

Eseia 41:10 (BCND)

Paid ag ofni, yr wyf fi gyda thi; paid â dychryn, myfi yw dy Dduw. Cryfhaf di a'th nerthu, cynhaliaf di â llaw dde orchfygol.

Eseia 41:1 (BCND)

“Rhowch sylw astud i mi, chwi ynysoedd, bydded i'r bobl nesáu ; bydded iddynt nesáu a llefaru; down ynghyd i farn.

Eseia 41:2 (BCND)

“Pwy sy'n codi un o'r dwyrain, a buddugoliaeth yn ei gyfarfod bob cam? Y mae'n bwrw cenhedloedd i lawr o'i flaen, ac yn darostwng brenhinoedd. Y mae'n eu gwneud fel llwch â'i gleddyf, fel us yn chwyrlïo â'i fwa.

Eseia 41:3 (BCND)

Y mae'n eu hymlid, ac yn tramwyo'n ddiogel ar hyd llwybr na throediodd o'r blaen.

Eseia 41:4 (BCND)

Pwy a wnaeth ac a gyflawnodd hyn, a galw'r cenedlaethau o'r dechreuad? Myfi, yr ARGLWYDD , yw'r dechrau, a myfi sydd yno yn y diwedd hefyd.”

Eseia 41:5 (BCND)

Gwelodd yr ynysoedd, ac ofni; daeth cryndod ar eithafion byd; daethant, a nesáu.

Eseia 41:6 (BCND)

Y mae pawb yn helpu ei gilydd, a'r naill yn dweud wrth y llall, “Ymgryfha.”

Eseia 41:7 (BCND)

Y mae'r crefftwr yn annog yr eurych, a'r un sy'n llyfnhau â'r morthwyl yn annog yr un sy'n taro ar yr eingion; y mae'n dyfarnu bod y sodro'n iawn, ac yn sicrhau'r ddelw â hoelion rhag iddi symud.

Eseia 41:8 (BCND)

“Ti, Israel, yw fy ngwas; ti, Jacob, a ddewisais, had Abraham, f'anwylyd.

Eseia 41:9 (BCND)

Dygais di o bellteroedd byd, a'th alw o'i eithafion, a dweud wrthyt, ‘Fy ngwas wyt ti; rwyf wedi dy ddewis ac nid dy wrthod.’

Eseia 41:11 (BCND)

Yn awr cywilyddir a gwaradwyddir pob un sy'n digio wrthyt; bydd pob un sy'n ymrafael â thi yn mynd yn ddim ac yn diflannu.

Eseia 41:12 (BCND)

Byddi'n chwilio am y rhai sy'n ymosod arnat, ond heb eu cael; bydd pob un sy'n rhyfela yn dy erbyn yn mynd yn ddim, ac yn llai na dim.

Eseia 41:13 (BCND)

Canys myfi, yr ARGLWYDD dy Dduw, sy'n gafael yn dy law dde, ac yn dweud wrthyt, ‘Paid ag ofni, yr wyf fi'n dy gynorthwyo.’

Eseia 41:14 (BCND)

“Paid ag ofni, ti'r pryfyn Jacob, na thithau'r lleuen Israel; byddaf fi'n dy gynorthwyo,” medd yr ARGLWYDD , Sanct Israel, dy Waredydd.

Eseia 41:15 (BCND)

“Yn awr, fe'th wnaf yn fen ddyrnu— un newydd, ddanheddog a miniog; byddi'n dyrnu'r mynyddoedd a'u malu, ac yn gwneud y bryniau fel us.

Eseia 41:16 (BCND)

Byddi'n eu nithio, a'r gwynt yn eu chwythu i ffwrdd, a'r dymestl yn eu gwasgaru. Ond byddi di'n llawenychu yn yr ARGLWYDD ac yn ymhyfrydu yn Sanct Israel.

Eseia 41:17 (BCND)

“Pan fydd y tlawd a'r anghenus yn chwilio am ddŵr, heb ei gael, a'u tafodau'n gras gan syched, byddaf fi, yr ARGLWYDD , yn eu hateb; ni fyddaf fi, Duw Israel, yn eu gadael.

Eseia 41:18 (BCND)

Agoraf afonydd ar ben y moelydd, a ffynhonnau yng nghanol y dyffrynnoedd; gwnaf y diffeithwch yn llynnoedd, a'r crastir yn ffrydiau dyfroedd.

Eseia 41:19 (BCND)

Plannaf yn yr anialwch gedrwydd, acasia, myrtwydd ac olewydd; gosodaf ynghyd yn y diffeithwch ffynidwydd, ffawydd a phren bocs.

Eseia 41:20 (BCND)

Felly cânt weld a gwybod, ystyried ac amgyffred mai llaw'r ARGLWYDD a wnaeth hyn, ac mai Sanct Israel a'i creodd.”

Eseia 41:21 (BCND)

“Gosodwch eich achos gerbron,” medd yr ARGLWYDD . “Cyflwynwch eich dadleuon,” medd brenin Jacob.

Eseia 41:22 (BCND)

“Bydded iddynt ddod a hysbysu i ni beth sydd i ddigwydd. Beth oedd y pethau cyntaf? Dywedwch, er mwyn inni eu hystyried, a gwybod eu canlyniadau; neu dywedwch wrthym y pethau sydd i ddod.

Eseia 41:23 (BCND)

Mynegwch y pethau a ddaw ar ôl hyn, inni gael gwybod mai duwiau ydych; gwnewch rywbeth, da neu ddrwg, er mwyn i ni gael braw ac ofni trwom.

Eseia 41:24 (BCND)

Yn wir, nid ydych chwi'n ddim, ac nid yw'ch gwaith ond diddim. Ffieiddbeth yw'r un sy'n eich dewis.

Eseia 41:25 (BCND)

“Codais un o'r gogledd, ac fe ddaeth, un o'r dwyrain, ac fe eilw ar f'enw; y mae'n sathru rhaglawiaid fel pridd, ac fel crochenydd yn sathru clai.