Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Canlyniadau Chwilio Genesis 28:10-22

Genesis 28:10 (BCND)

Ymadawodd Jacob â Beerseba a theithio tua Haran.

Genesis 28:11 (BCND)

A daeth i ryw fan ac aros noson yno, gan fod yr haul wedi machlud. Cymerodd un o gerrig y lle a'i gosod dan ei ben, a gorweddodd i gysgu yn y fan honno.

Genesis 28:12 (BCND)

Breuddwydiodd ei fod yn gweld ysgol wedi ei gosod ar y ddaear, a'i phen yn cyrraedd i'r nefoedd, ac angylion Duw yn dringo a disgyn ar hyd-ddi.

Genesis 28:13 (BCND)

A safodd yr ARGLWYDD gerllaw iddo a dweud, “Myfi yw'r ARGLWYDD , Duw Abraham dy dad, a Duw Isaac; rhoddaf y tir yr wyt yn gorwedd arno i ti ac i'th ddisgynyddion;

Genesis 28:14 (BCND)

bydd dy hil fel llwch y ddaear, a byddi'n ymestyn i'r gorllewin a'r dwyrain ac i'r gogledd a'r de; a bendithir holl deuluoedd y ddaear ynot ti ac yn dy ddisgynyddion.

Genesis 28:15 (BCND)

Wele, yr wyf fi gyda thi, a chadwaf di ple bynnag yr ei, a dof â thi'n ôl i'r wlad hon; oherwydd ni'th adawaf nes imi wneud yr hyn a ddywedais.”

Genesis 28:16 (BCND)

Pan ddeffrôdd Jacob o'i gwsg, dywedodd, “Y mae'n sicr fod yr ARGLWYDD yn y lle hwn, ac ni wyddwn i.”

Genesis 28:17 (BCND)

A daeth arno ofn, ac meddai, “Mor ofnadwy yw'r lle hwn! Nid yw'n ddim amgen na thŷ i Dduw, a dyma borth y nefoedd.”

Genesis 28:18 (BCND)

Cododd Jacob yn fore, a chymerodd y garreg a fu dan ei ben, a gosododd hi'n golofn, a thywallt olew drosti.

Genesis 28:19 (BCND)

Galwodd y lle, Bethel , ond enw'r ddinas ar y dechrau oedd Lus.

Genesis 28:20 (BCND)

Yna gwnaeth Jacob adduned, a dweud, “Os bydd Duw gyda mi, ac yn fy nghadw'n ddiogel ar fy nhaith, a rhoi imi fara i'w fwyta a dillad i'w gwisgo,

Genesis 28:21 (BCND)

a minnau'n dychwelyd mewn heddwch i dŷ fy nhad, yna bydd yr ARGLWYDD yn Dduw i mi,

Genesis 28:22 (BCND)

a bydd y garreg hon a osodais yn golofn yn dŷ i Dduw; ac o bob peth a roi i mi, mi rof ddegwm i ti.”

Genesis 28:1 (BCND)

Yna galwodd Isaac ar Jacob, a bendithiodd ef. Gorchmynnodd iddo, “Paid â phriodi gwraig o blith merched Canaan.

Genesis 28:2 (BCND)

Cod, dos i Padan Aram, i dŷ Bethuel tad dy fam; a chymer iti yno wraig o blith merched Laban brawd dy fam.

Genesis 28:3 (BCND)

Boed i Dduw Hollalluog dy fendithio, a'th wneud yn ffrwythlon a lluosog fel y byddi'n gynulliad o bobloedd.

Genesis 28:4 (BCND)

Rhodded ef fendith Abraham i ti ac i'th hil hefyd, fel y cei etifeddu'r wlad yr wyt yn ymdeithio ynddi, yr un a roddodd Duw i Abraham.”

Genesis 28:5 (BCND)

Felly, anfonodd Isaac Jacob ymaith; ac aeth yntau i Padan Aram at Laban fab Bethuel yr Aramead, brawd Rebeca mam Jacob ac Esau.

Genesis 28:6 (BCND)

Deallodd Esau fod Isaac wedi bendithio Jacob a'i anfon ymaith i Padan Aram i gymryd gwraig oddi yno, ac iddo orchymyn iddo wrth ei fendithio, “Paid â phriodi gwraig o blith merched Canaan”,

Genesis 28:7 (BCND)

a bod Jacob wedi gwrando ar ei rieni a mynd i Padan Aram.

Genesis 28:8 (BCND)

Pan welodd Esau nad oedd merched Canaan wrth fodd Isaac ei dad,

Genesis 28:9 (BCND)

aeth at Ismael a chymryd yn wraig, at ei wragedd eraill, Mahalath ferch Ismael, fab Abraham, chwaer Nebaioth.

Genesis 1:28 (BCND)

Bendithiodd Duw hwy a dweud, “Byddwch ffrwythlon ac amlhewch, llanwch y ddaear a darostyngwch hi; llywodraethwch ar bysgod y môr, ar adar yr awyr, ac ar bopeth byw sy'n ymlusgo ar y ddaear.”

Genesis 5:28 (BCND)

Bu Lamech fyw am gant wyth deg a dwy o flynyddoedd cyn geni iddo fab;

Genesis 9:28 (BCND)

Bu Noa fyw wedi'r dilyw am dri chant a hanner o flynyddoedd.