Canlyniadau Chwilio 1 Samuel 15
1 Samuel 15:1 (BCND)
Dywedodd Samuel wrth Saul, “Anfonwyd fi gan yr ARGLWYDD i'th eneinio'n frenin ar ei bobl Israel; felly gwrando'n awr ar eiriau'r ARGLWYDD .
1 Samuel 15:2 (BCND)
Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Yr wyf am gosbi Amalec am yr hyn a wnaeth i Israel, sef eu rhwystro hwy ar y ffordd wrth iddynt ddod i fyny o'r Aifft.’
1 Samuel 15:3 (BCND)
Dos, yn awr, a tharo'r Amaleciaid, a'u llwyr ddinistrio hwy a phopeth sydd ganddynt; paid â'u harbed, ond lladd bob dyn a dynes, pob plentyn a baban, pob eidion a dafad, pob camel ac asyn.”
1 Samuel 15:4 (BCND)
Felly galwodd Saul y fyddin allan a'u rhestru yn Telaim. Yr oedd dau gan mil o wŷr traed, a deng mil o ddynion Jwda.
1 Samuel 15:5 (BCND)
Pan ddaeth Saul at ddinas yr Amaleciaid, ymguddiodd mewn cwm,
1 Samuel 15:6 (BCND)
a dweud wrth y Ceneaid, “Ewch i ffwrdd, cefnwch ar yr Amaleciaid, rhag imi eich distrywio chwi gyda hwy; oherwydd buoch chwi'n garedig wrth yr holl Israeliaid pan oeddent yn dod i fyny o'r Aifft.” Aeth y Ceneaid ymaith oddi wrth yr Amaleciaid;
1 Samuel 15:7 (BCND)
yna trawodd Saul Amalec o Hafila hyd at Sur ar gwr yr Aifft.
1 Samuel 15:8 (BCND)
Daliodd Agag brenin Amalec yn fyw, ond lladdodd y bobl i gyd â'r cleddyf.
1 Samuel 15:9 (BCND)
Arbedodd Saul a'r fyddin nid yn unig Agag, ond hefyd y gorau o'r defaid a'r gwartheg, yr anifeiliaid breision a'r ŵyn, a phopeth o werth. Nid oeddent yn fodlon difa'r rheini; ond difodwyd popeth gwael a diwerth.
1 Samuel 15:10 (BCND)
Yna daeth gair yr ARGLWYDD at Samuel, yn dweud,
1 Samuel 15:11 (BCND)
“Y mae'n edifar gennyf fy mod wedi gwneud Saul yn frenin, oherwydd y mae wedi cefnu arnaf a heb gadw fy ngorchymyn.” Digiodd Samuel, a galwodd ar yr ARGLWYDD drwy'r nos.
1 Samuel 15:12 (BCND)
Bore trannoeth cododd yn gynnar i gyfarfod â Saul, ond dywedwyd wrtho fod Saul wedi mynd i Garmel, ac wedi codi cofeb iddo'i hun yno cyn troi'n ôl a mynd draw i Gilgal.
1 Samuel 15:13 (BCND)
Wedi i Samuel ddod o hyd i Saul, dywedodd Saul wrtho, “Bendith yr ARGLWYDD arnat! Yr wyf wedi cadw gorchymyn yr ARGLWYDD .”
1 Samuel 15:14 (BCND)
Gofynnodd Samuel, “Beth ynteu yw'r brefu defaid sydd yn fy nghlustiau, a'r sŵn gwartheg yr wyf yn ei glywed?”
1 Samuel 15:15 (BCND)
Dywedodd Saul, “Y bobl sydd wedi dod â hwy oddi wrth yr Amaleciaid, oherwydd y maent wedi arbed y gorau o'r defaid a'r gwartheg er mwyn aberthu i'r ARGLWYDD dy Dduw. Yr ydym wedi difa'r gweddill.”
1 Samuel 15:16 (BCND)
Dywedodd Samuel wrth Saul, “Taw, imi gael dweud wrthyt beth a ddywedodd yr ARGLWYDD wrthyf neithiwr.” Meddai yntau wrtho, “Dywed.”
1 Samuel 15:17 (BCND)
A dywedodd Samuel, “Er iti fod yn fychan yn d'olwg dy hun, oni ddaethost yn ben ar lwythau Israel, a'r ARGLWYDD wedi d'eneinio'n frenin ar Israel?
1 Samuel 15:18 (BCND)
Fe anfonodd yr ARGLWYDD di allan a dweud, ‘Dos a difroda'r pechaduriaid hynny, Amalec, a rhyfela â hwy nes eu difa.’
1 Samuel 15:19 (BCND)
Pam na wrandewaist ar lais yr ARGLWYDD , ond rhuthro ar yr ysbail, a gwneud drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD ?”
1 Samuel 15:20 (BCND)
Dywedodd Saul wrth Samuel, “Ond yr wyf wedi gwrando ar lais yr ARGLWYDD , a mynd fel yr anfonodd ef fi; deuthum ag Agag brenin Amalec yn ôl, a difrodi'r Amaleciaid.
1 Samuel 15:21 (BCND)
Fe gymerodd y bobl beth o'r ysbail, yn ddefaid a gwartheg, y pigion o'r diofryd, er mwyn aberthu i'r ARGLWYDD dy Dduw yn Gilgal.”
1 Samuel 15:22 (BCND)
Yna dywedodd Samuel: “A oes gan yr ARGLWYDD bleser mewn offrymau ac ebyrth, fel mewn gwrando ar lais yr ARGLWYDD ? Gwell gwrando nag aberth, ac ufudd-dod na braster hyrddod.
1 Samuel 15:23 (BCND)
Yn wir, pechod fel dewiniaeth yw anufudd-dod, a throsedd fel addoli eilunod yw cyndynrwydd. Am i ti wrthod gair yr ARGLWYDD , gwrthododd ef di fel brenin.”
1 Samuel 15:24 (BCND)
Dywedodd Saul wrth Samuel, “Yr wyf wedi pechu, oblegid yr wyf wedi torri gorchymyn yr ARGLWYDD a'th air dithau, am imi ofni'r bobl a gwrando ar eu llais.
1 Samuel 15:25 (BCND)
Maddau'n awr fy mai, a thyrd yn ôl gyda mi, er mwyn imi ymostwng i'r ARGLWYDD .”