Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Canlyniadau Chwilio 1 Chronicles 15

1 Cronicl 15:1 (BCND)

Adeiladodd Dafydd dai iddo'i hun yn Ninas Dafydd, a pharatoi lle i arch Duw a gosod pabell iddi.

1 Cronicl 15:2 (BCND)

Yna dywedodd, “Nid oes neb i gario arch Duw ond y Lefiaid, oherwydd hwy a ddewiswyd gan yr ARGLWYDD i'w chario ac i'w wasanaethu ef am byth.”

1 Cronicl 15:3 (BCND)

Cynullodd Dafydd Israel gyfan i Jerwsalem, i ddod ag arch yr ARGLWYDD i fyny i'r lle yr oedd wedi ei baratoi iddi.

1 Cronicl 15:4 (BCND)

Casglodd feibion Aaron a'r Lefiaid:

1 Cronicl 15:5 (BCND)

o feibion Cohath, Uriel y pennaeth a chant ac ugain o'i frodyr;

1 Cronicl 15:6 (BCND)

o feibion Merari, Asaia y pennaeth a dau gant ac ugain o'i frodyr;

1 Cronicl 15:7 (BCND)

o feibion Gersom, Joel y pennaeth a chant a thri deg o'i frodyr;

1 Cronicl 15:8 (BCND)

o feibion Elisaffan, Semaia y pennaeth a dau gant o'i frodyr;

1 Cronicl 15:9 (BCND)

o feibion Hebron, Eliel y pennaeth a phedwar ugain o'i frodyr;

1 Cronicl 15:10 (BCND)

o feibion Ussiel, Amminadab y pennaeth a chant a deuddeg o'i frodyr.

1 Cronicl 15:11 (BCND)

Yna galwodd Dafydd am Sadoc ac Abiathar yr offeiriaid, ac am y Lefiaid, Uriel, Asaia, Joel, Semaia, Eliel ac Amminadab,

1 Cronicl 15:12 (BCND)

a dywedodd wrthynt, “Chwi yw pennau-teuluoedd y Lefiaid. Sancteiddiwch eich hunain, chwi a'ch brodyr, i fynd ag arch ARGLWYDD Dduw Israel i'r lle a baratoais iddi.

1 Cronicl 15:13 (BCND)

Am nad oeddech chwi gyda ni y tro cyntaf, ac na fuom ninnau yn ymgynghori ag ef ynglŷn â'i drefn, fe dorrodd yr ARGLWYDD ein Duw allan i'n herbyn.”

1 Cronicl 15:14 (BCND)

Felly sancteiddiodd yr offeiriaid a'r Lefiaid eu hunain i ddod ag arch ARGLWYDD Dduw Israel i fyny.

1 Cronicl 15:15 (BCND)

Ac fe gludodd y Lefiaid arch Duw ar eu hysgwyddau â pholion, fel y gorchmynnodd Moses yn ôl gair yr ARGLWYDD .

1 Cronicl 15:16 (BCND)

Rhoddodd Dafydd orchymyn i benaethiaid y Lefiaid osod eu brodyr yn gerddorion i ganu mawl yn llawen gydag offer cerdd, sef nablau, telynau a symbalau.

1 Cronicl 15:17 (BCND)

Felly etholodd y Lefiaid Heman fab Joel ac, o'i frodyr, Asaff fab Berecheia; a hefyd Ethnan fab Cusaia o blith eu brodyr, meibion Merari.

1 Cronicl 15:18 (BCND)

A chyda hwy eu brodyr o'r ail radd: y porthorion Sechareia , Jaasiel, Semiramoth, Jehiel, Unni, Eliab, Benaia, Maaseia, Matitheia, Eliffele, Micneia, Obed-edom a Jehiel.

1 Cronicl 15:19 (BCND)

Heman, Asaff ac Ethan, y cerddorion, oedd i seinio'r symbalau pres.

1 Cronicl 15:20 (BCND)

Sechareia, Asiel, Semiramoth, Jehiel, Unni, Eliab, Maaseia a Benaia oedd i ganu nablau ar Alamoth.

1 Cronicl 15:21 (BCND)

Matitheia, Eliffele, Micneia, Obed-edom, Jehiel ac Asaseia oedd i ganu'r telynau ac arwain ar Seminith.

1 Cronicl 15:22 (BCND)

Chenaneia, pennaeth y Lefiaid, oedd yn gofalu am y canu, ac ef oedd yn ei ddysgu i eraill am ei fod yn hyddysg ynddo.

1 Cronicl 15:23 (BCND)

Berecheia ac Elcana oedd i fod yn borthorion i'r arch.

1 Cronicl 15:24 (BCND)

Sebaneia, Jehosaffat, Nathaneel, Amisai, Sechareia, Benaia ac Elieser, yr offeiriaid, oedd i ganu'r trwmpedau o flaen arch Duw; yr oedd Obed-edom a Jeheia hefyd i fod yn borthorion i'r arch.

1 Cronicl 15:25 (BCND)

Felly aeth Dafydd a henuriaid Israel a phenaethiaid y miloedd i ddod ag arch cyfamod yr ARGLWYDD i fyny o dŷ Obed-edom mewn llawenydd.