Merched
Cynllun Brwydr Rhyfela Ysbrydol
Drwy'r dysgeidiaethau pwerus hyn bydd dealltwriaeth ddyfnach yn cael ei ddatgelu ar sut i greu strategaeth i oresgyn a threchu'r gelyn a rhwystro ei gynllun i ddinistrio dy fywyd
Adamant gyda Lisa Bevere
Beth yw gwirionedd? Mae diwylliant yn twyllo'i hun drwy feddwl mai afon yw gwirionedd sy'n llifo ar lwybr amser - craig yw e. Ynghanol môr tymhestlog o safbwyntiau, bydd y cynllun hwn yn dy helpu i dawelu'r enaid - gan roi iti lwybr clir mewn byd sydd yn crwydro yma a thraw.
Byw Wedi Newid: Yn y Flwyddyn Newydd
Gyda phob Blwyddyn Newydd daw cyfle newydd am ddechrau newydd. Paid gadael i hon fod yn flwyddyn arall sy'n dechrau gyda phenderfyniadau na fyddi di’n eu cadw. Bydd y cynllun 4 diwrnod hwn yn dy arwain wrth fyfyrio ac yn rhoi persbectif newydd i ti fel y gelli wneud hon y flwyddyn orau eto.
Dewiswyd — Datgelu'r Wraig yn Nghrist
Fel merched, dŷn ni’n aml yn cael ein hunain yn jyglo llawer o wahanol rolau mewn bywyd. Ond yng nghanol y prysurdeb hwn, mae’n bwysig cofio, yn ein hanfod, pwy ydyn ni: Merched Dewisedig Duw, neu’r Wraig yng Nghrist. Yr hunaniaeth hon yw sylfaen ein bywydau, gan lunio ein perthynas â Duw ac eraill. Ymuna â ni dros y tridiau nesaf wrth i ni archwilio'r hunaniaeth hon yn fanylach!
Prysurdeb Sanctaidd: Cofleidia Fywyd o Waith Caled, Gorffwys Da
Cydbwysedd. Dyma dŷn ni'n hiraethu amdano yn ein bywydau wrth i ni glywed un llais yn gweiddi "gweithia'n galetach" mewn un glust a llais arall yn gweiddi "gorffwysa mwy" yn y glust arall. Beth os nad un ffordd neu'r llall yw cynllun Duw ar ein cyfer? Dyma brysurdeb sanctaidd - ffordd o fyw ble gelli weithio'n galed ac ymlacio mewn ffyrdd fydd yn anrhydeddu Duw.
Darllen drwy'r Testament Newydd
Bydd y cynllun yn dy ganiatáu i ddarllen drwy'r Testament Newydd cyfan mewn blwyddyn.
Pais setlo am Saff
Os na chaiff lleisiau o ansicrwydd ac amheuaeth eu herio byddan nhw’n rheoli dy fywyd. Fedri di ddim tawelu’r lleisiau hyn na’u hanwybyddu. Yn y cynllun darllen tri diwrnod hwn, mae Sarah Jakes Roberts yn dangos iti sut i herio cyfyngiadau dy orffennol a chofleidio’r hyn sy’n anghyfforddus er mwyn bod yn ddigyfnewid.
Sgyrsiau gyda Duw
Mae Sgyrsiau gyda Duw yn drochiant llawen i mewn i fywyd agosach o weddi, gan bwysleisio ffyrdd mwy ymarferol o glywed llais Duw. Mae Duw eisiau i ni fwynhau sgwrs ddi-ddiwedd ag e drwy ein bywyd cyfan - sgwrs sy'n gwneud gwahaniaeth ym mhob cyfeiriad, perthnasoedd a phwrpas. Mae'r cynllun hwn wedi'i lenwi â storïau tryloyw a phersonol am gyrraedd calon Duw. Mae e'n ein caru ni!
Lle i Anadlu
Wyt ti’n teimlo weithiau nad wyt ti’n gallu mwynhau unrhyw beth am dy fod yn ceisio gwneud popeth? Amldasgio dy ffordd trwy fywyd gyda'th anwyliaid. . . Rwyt ti’n effeithiol, ond rwyt ti wedi blino'n lân. Ti angen ychydig o le i anadlu. Gydag un gwahoddiad rhyfeddol o syml, mae Duw yn cynnig ffordd i gyfnewid cyflymder llethol bywyd am un a fydd o’r diwedd yn dod â heddwch i ti. Bydd y cynllun hwn yn dangos i ti sut.