Rhieni
Siarad â Duw drwy weddi
Gall bywyd teuluol fod yn brysur a dŷn ni'n aml ddim yn cymryd yr amser i weddïo - heb sôn am helpu ein plant i feithrin yr arfer o gynnwys Duw yn eu diwrnod. Yn y cynllun hwn byddwn yn gweld gymaint mae Duw eisiau clywed gynnon ni a sut y gall gweddi gryfhau ein perthynas â'n gilydd. Mae pob dydd yn cynnwys awgrym gweddi, darlleniad byr o'r Beibl ac esboniad, gweithgaredd, a thrafodaeth a chwestiynau.
Heddwch Duw
Mae Gair Duw'n dweud ei fod yn cynnig heddwch "y daioni sydd tu hwnt i bob dychymyg" (Philipiaid, pennod 4, adnod 7 beibl.net). Yn y cynllun pedwar diwrnod hwn byddi di a'th blant yn cymryd golwg agos ar y rhannau hynny o'n bywydau ble gallwn brofi'r heddwch hwnnw. Mae pob diwrnod yn cynnwys ysgogiad at weddi, darlleniad byr ac esboniad o'r Ysgrythur, gweithgaredd ymarferol, a chwestiynau trafod.
Doethineb Radical: Taith 7 Diwrnod i Dadau
Mae'n anhygoel sut mae ein tadau yn cael dylanwad arnom. Does neb yn dianc o ddylanwad ein tad bydol. A chan nad ydy'r rhan fwyaf o ddynion yn teimlo'n barod i fod yn dadau, mae'n hanfodol i geisio arweiniad - o'r Gair a chan dadau eraill. Taith tuag at ddoethineb a mewnwelediad i dadau yw Doethineb Radical, sy'n cyfuno egwyddorion a doethineb o'r Gair gyda profiad, tad hŷn a doethach ddysgodd o'i gamgymeriadau.