Sechareia 8:16-17
Sechareia 8:16-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“‘Dyma beth dw i eisiau i chi ei wneud: Dwedwch y gwir wrth eich gilydd. Hybu cyfiawnder a thegwch yn y llysoedd barn. Peidio bwriadu drwg i’ch gilydd. Peidio dweud celwydd ar lw. Dw i’n casáu pethau fel yna,’ meddai’r ARGLWYDD.”
Rhanna
Darllen Sechareia 8Sechareia 8:16-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dyma'r peth a wnewch: dywedwch y gwir wrth eich gilydd; gwnewch farn uniawn a chywir yn eich pyrth; peidiwch â dyfeisio â'ch meddyliau ddrwg i'ch gilydd, na charu llwon celwyddog, oherwydd yr wyf yn casáu yr holl bethau hyn,’ medd yr ARGLWYDD.”
Rhanna
Darllen Sechareia 8Sechareia 8:16-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Dyma y pethau a wnewch chwi; Dywedwch y gwir bawb wrth ei gymydog; bernwch farn gwirionedd a thangnefedd yn eich pyrth; Ac na fwriedwch ddrwg neb i’w gilydd yn eich calonnau; ac na hoffwch lw celwyddog: canys yr holl bethau hyn a gaseais, medd yr ARGLWYDD.
Rhanna
Darllen Sechareia 8