Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Sechareia 6:13 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Sechareia 6:13 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Ie, fe sy’n mynd i adeiladu teml yr ARGLWYDD! Bydd yn cael ei arwisgo, ac yn eistedd mewn ysblander fel brenin ar ei orsedd. A bydd offeiriad yn rhannu ei awdurdod, a’r ddau ohonyn nhw yn cytuno’n llwyr gyda’i gilydd.

Sechareia 6:13 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Ef fydd yn adeiladu teml yr ARGLWYDD ac yn dwyn anrhydedd ac yn eistedd i deyrnasu ar ei orsedd; bydd offeiriad yn ymyl ei orsedd a chytundeb perffaith rhyngddynt.’

Sechareia 6:13 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Ie, teml yr ARGLWYDD a adeilada efe; ac efe a ddwg y gogoniant, ac a eistedd, ac a lywodraetha ar ei frenhinfainc; bydd yn offeiriad hefyd ar ei frenhinfainc: a chyngor hedd a fydd rhyngddynt ill dau.