Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Sechareia 6:10 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Sechareia 6:10 BNET (beibl.net 2015, 2024)

“Mae Cheldai, Tobeia a Idaïa newydd ddod yn ôl o Babilon. Dos ar unwaith i dŷ Joseia fab Seffaneia, a derbyn y rhoddion mae’r bobl sy’n y gaethglud wedi’i anfon gyda nhw.

Sechareia 6:10 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

“Cymer arian ac aur oddi ar Haldai, Tobeia a Jedaia, caethgludion a ddaeth o Fabilon, a dos di y dydd hwnnw i dŷ Joseia fab Seffaneia.

Sechareia 6:10 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Cymer gan y gaethglud, gan Heldai, gan Tobeia, a chan Jedaia, y rhai a ddaethant o Babilon, a thyred y dydd hwnnw a dos i dŷ Joseia mab Seffaneia