Sechareia 13:8-9
Sechareia 13:8-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyna fydd yn digwydd drwy’r wlad i gyd,” –yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn. “Bydd dwy ran o dair yn cael eu lladd, gan adael un rhan o dair ar ôl. A bydda i’n arwain y rheiny drwy dân, i’w puro fel mae arian yn cael ei buro, a’u profi fel mae aur yn cael ei brofi. Byddan nhw’n galw ar fy enw i, a bydda i’n ateb. Bydda i’n dweud, ‘Fy mhobl i ydy’r rhain,’ a byddan nhw’n dweud, ‘Yr ARGLWYDD ydy ein Duw ni.’”
Sechareia 13:8-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn yr holl dir,” medd yr ARGLWYDD, “trewir dwy ran o dair, a threngant, a gadewir traean yn fyw. A dygaf y drydedd ran trwy dân, a'u puro fel y purir arian, a'u profi fel y profir aur. Byddant yn galw ar f'enw, a minnau fy hun yn ateb; dywedaf fi, ‘Fy mhobl ydynt’, a dywedant hwy, ‘Yr ARGLWYDD yw ein Duw’.”
Sechareia 13:8-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A bydd yn yr holl dir, medd yr ARGLWYDD, y torrir ymaith ac y bydd marw dwy ran ynddo; a’r drydedd a adewir ynddo. A dygaf drydedd ran trwy y tân, a phuraf hwynt fel puro arian, a choethaf hwynt fel coethi aur: hwy a alwant ar fy enw, a minnau a’u gwrandawaf: dywedaf, Fy mhobl yw efe; ac yntau a ddywed, Yr ARGLWYDD yw fy NUW.