Sechareia 13:1-9 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Sechareia 13:1-9 BNET (beibl.net 2015, 2024)
“Bryd hynny bydd ffynnon wedi’i hagor bob amser i deulu brenhinol Dafydd a phobl Jerwsalem, i’w glanhau o bechod ac aflendid.” “Bryd hynny hefyd,” – meddai’r ARGLWYDD hollbwerus – “dw i’n mynd i gael gwared â’r eilunod o’r tir. Fydd neb yn cofio eu henwau nhw hyd yn oed. A bydda i hefyd yn cael gwared â’r proffwydi ffals a’r ysbrydion aflan o’r tir. Wedyn os bydd rhywun yn proffwydo, bydd ei dad a’i fam yn dweud wrtho, ‘Rhaid i ti farw! Ti’n honni siarad ar ran yr ARGLWYDD, ond yn proffwydo celwydd!’ A bydd ei dad a’i fam yn ei drywanu i farwolaeth. “Bryd hynny bydd gan broffwyd gywilydd o’i weledigaethau, a bydd yn ceisio cuddio’r gwir drwy stopio gwisgo clogyn blewog proffwydi. Bydd yn gwadu popeth a dweud, ‘Fi? Dw i ddim yn broffwyd. Dw i wedi bod yn gweithio fel gwas ar y tir es pan oeddwn i’n ifanc.’ Yna bydd rhywun yn gofyn iddo, ‘Felly, beth ydy’r creithiau yna ar dy frest di?’ A bydd yn ateb, ‘Ces fy anafu yn nhŷ ffrindiau.’” Dyma mae’r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: “Deffra gleddyf! Ymosod ar fy mugail, y dyn sy’n agos ata i. Taro’r bugail, a bydd y praidd yn mynd ar chwâl. Bydda i’n taro’r rhai bach hefyd. Dyna fydd yn digwydd drwy’r wlad i gyd,” –yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn. “Bydd dwy ran o dair yn cael eu lladd, gan adael un rhan o dair ar ôl. A bydda i’n arwain y rheiny drwy dân, i’w puro fel mae arian yn cael ei buro, a’u profi fel mae aur yn cael ei brofi. Byddan nhw’n galw ar fy enw i, a bydda i’n ateb. Bydda i’n dweud, ‘Fy mhobl i ydy’r rhain,’ a byddan nhw’n dweud, ‘Yr ARGLWYDD ydy ein Duw ni.’”
Sechareia 13:1-9 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
“Yn y dydd hwnnw bydd ffynnon wedi ei hagor i linach Dafydd ac i drigolion Jerwsalem, ar gyfer pechod ac aflendid. Yn y dydd hwnnw,” medd ARGLWYDD y Lluoedd, “torraf ymaith enwau'r eilunod o'r tir, ac ni chofir hwy mwyach; symudaf hefyd o'r tir y proffwydi ac ysbryd aflendid. Ac os cyfyd un i broffwydo eto, fe ddywed ei dad a'i fam a'i cenhedlodd, ‘Ni chei fyw, am iti lefaru twyll yn enw'r ARGLWYDD’, a bydd ei dad a'i fam a'i cenhedlodd yn ei ladd wrth iddo broffwydo. Yn y dydd hwnnw bydd ar bob proffwyd gywilydd o'i weledigaeth wrth broffwydo, ac ni fydd yn gwisgo mantell o flew er mwyn twyllo, ond dywed, ‘Nid proffwyd wyf fi, ond dyn yn trin tir, a'r tir yn gynhaliaeth imi o'm hieuenctid.’ Os dywed rhywun wrtho, ‘Beth yw'r creithiau hyn ar dy gorff?’ fe etyb, ‘Fe'u cefais yn nhŷ fy nghyfeillion.’ ” “Deffro, gleddyf, yn erbyn fy mugail, ac yn erbyn y gŵr sydd yn f'ymyl,” medd ARGLWYDD y Lluoedd. “Taro'r bugail, a gwasgerir y praidd, a rhof fy llaw yn erbyn y rhai bychain. Yn yr holl dir,” medd yr ARGLWYDD, “trewir dwy ran o dair, a threngant, a gadewir traean yn fyw. A dygaf y drydedd ran trwy dân, a'u puro fel y purir arian, a'u profi fel y profir aur. Byddant yn galw ar f'enw, a minnau fy hun yn ateb; dywedaf fi, ‘Fy mhobl ydynt’, a dywedant hwy, ‘Yr ARGLWYDD yw ein Duw’.”
Sechareia 13:1-9 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y dydd hwnnw y bydd ffynnon wedi ei hagoryd i dŷ Dafydd, ac i breswylwyr Jerwsalem, i bechod ac aflendid. A bydd y dwthwn hwnnw, medd ARGLWYDD y lluoedd, i mi dorri enwau yr eilunod allan o’r tir, ac nis cofir hwynt mwyach; a gyrraf hefyd y proffwydi ac ysbryd aflendid o’r wlad. A bydd pan broffwydo un mwyach, y dywed ei dad a’i fam a’i cenedlasant ef wrtho, Ni chei fyw; canys dywedaist gelwydd yn enw yr ARGLWYDD: a’i dad a’i fam a’i cenedlasant ef a’i gwanant ef pan fyddo yn proffwydo. A bydd y dydd hwnnw, i’r proffwydi gywilyddio bob un am ei weledigaeth, wedi iddo broffwydo; ac ni wisgant grys o rawn i dwyllo: Ond efe a ddywed, Nid proffwyd ydwyf fi; llafurwr y ddaear ydwyf fi; canys dyn a’m dysgodd i gadw anifeiliaid o’m hieuenctid. A dywed un wrtho, Beth a wna y gwelïau hyn yn dy ddwylo? Yna efe a ddywed, Dyma y rhai y’m clwyfwyd â hwynt yn nhŷ fy ngharedigion. Deffro, gleddyf, yn erbyn fy mugail, ac yn erbyn y gŵr sydd gyfaill i mi, medd ARGLWYDD y lluoedd: taro y bugail, a’r praidd a wasgerir; a dychwelaf fy llaw ar y rhai bychain. A bydd yn yr holl dir, medd yr ARGLWYDD, y torrir ymaith ac y bydd marw dwy ran ynddo; a’r drydedd a adewir ynddo. A dygaf drydedd ran trwy y tân, a phuraf hwynt fel puro arian, a choethaf hwynt fel coethi aur: hwy a alwant ar fy enw, a minnau a’u gwrandawaf: dywedaf, Fy mhobl yw efe; ac yntau a ddywed, Yr ARGLWYDD yw fy NUW.