Sechareia 11:4-5
Sechareia 11:4-5 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma mae’r ARGLWYDD fy Nuw yn ei ddweud: “Bugeilia’r praidd sydd i fynd i’r lladd-dy. Mae’r rhai sy’n eu prynu yn eu lladd heb deimlo unrhyw gywilydd. Mae’r rhai sy’n eu gwerthu yn diolch i’r ARGLWYDD am eu gwneud nhw’n gyfoethog. A dydy’r bugeiliaid yn poeni dim amdanyn nhw.
Sechareia 11:4-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD fy Nuw: “Portha'r praidd sydd i'w lladd. Bydd y sawl sy'n eu prynu yn eu lladd heb deimlo'n euog; bydd y sawl sy'n eu gwerthu yn dweud, ‘Bendigedig fo'r ARGLWYDD, cefais gyfoeth’; ac ni fydd eu bugeiliaid yn tosturio wrthynt.
Sechareia 11:4-5 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD fy NUW; Portha ddefaid y lladdfa; Y rhai y mae eu perchenogion yn eu lladd, heb dybied eu bod yn euog; a’u gwerthwyr a ddywedant, Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD, am fy nghyfoethogi: a’u bugeiliaid nid arbedant hwynt.