Sechareia 10:1-12
Sechareia 10:1-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Gofynnwch i’r ARGLWYDD am law adeg tymor cawodydd y gwanwyn – yr ARGLWYDD sy’n anfon y stormydd. Bydd yn anfon cawodydd trwm o law a bydd digon o gnydau yn tyfu i bawb. Mae eilun-ddelwau teuluol yn camarwain pobl, a’r rhai sy’n dweud ffortiwn yn twyllo – mae eu breuddwydion yn ffals, a’u cysur yn ddiwerth. Felly mae’r bobl yn crwydro fel defaid, heb fugail i’w hamddiffyn. “Dw i wedi gwylltio’n lân gyda ‘bugeiliaid’ y gwledydd, ac yn mynd i’w cosbi nhw – y ‘bychod’ sydd ar y blaen!” Mae’r ARGLWYDD hollbwerus yn mynd i ofalu am ei braidd, sef pobl Jwda, a’u gwneud nhw fel ceffylau rhyfel cryfion. Ohonyn nhw y daw y garreg sylfaen, Ohonyn nhw daw’r peg i ddal y babell, Ohonyn nhw daw’r bwa rhyfel, Ohonyn nhw daw pob arweinydd cryf. Byddan nhw fel milwyr dewr mewn brwydr yn martsio drwy’r mwd ar faes y gâd. Am fod yr ARGLWYDD gyda nhw, byddan nhw’n ymladd ac yn curo cafalri’r gelyn. “Dw i’n mynd i wneud teyrnas Jwda’n gryf, ac achub pobl Israel. Dw i’n mynd i ddod â nhw’n ôl a dangos trugaredd atyn nhw – bydd fel petawn i erioed wedi’u gwrthod nhw. Fi ydy’r ARGLWYDD eu Duw nhw, a dw i’n mynd i’w hateb nhw. Bydd pobl Israel fel milwyr dewr yn dathlu fel petaen nhw wedi meddwi. Bydd eu plant mor hapus wrth weld hynny, ac yn gorfoleddu yn yr ARGLWYDD. Dw i’n mynd i chwibanu i’w casglu nhw at ei gilydd – dw i’n eu gollwng nhw’n rhydd! Bydd cymaint ohonyn nhw ag o’r blaen. Er i mi eu gwasgaru drwy’r gwledydd, byddan nhw’n meddwl amdana i mewn mannau pell – a byddan nhw a’u plant yn dod yn ôl Bydda i’n dod â nhw yn ôl o’r Aifft, ac yn eu casglu nhw o Asyria; mynd â nhw i dir Gilead a Libanus, a fydd hyd yn oed hynny ddim digon o le. Byddan nhw’n croesi’r môr stormus, a bydd e’n tawelu’r tonnau. Bydd dŵr dwfn afon Nîl yn sychu, balchder Asyria’n cael ei dorri, a’r Aifft yn rheoli ddim mwy. Bydda i’n gwneud fy mhobl yn gryf, a byddan nhw’n byw fel dw i’n dweud,” –yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn.
Sechareia 10:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gofynnwch i'r ARGLWYDD am law yn nhymor glaw'r gwanwyn; yr ARGLWYDD sy'n gwneud y cymylau trymion a'r cawodydd glaw, ac yn rhoi gwellt y maes i bawb. Oherwydd y mae'r teraffim yn llefaru oferedd, a gweledigaeth y dewiniaid yn gelwydd; cyhoeddant freuddwydion twyllodrus, a chynnig cysur gwag. Am hynny y mae'r bobl yn crwydro fel defaid, yn druenus am eu bod heb fugail. “Enynnodd fy llid yn erbyn y bugeiliaid, a dygaf gosb ar arweinwyr y praidd; oherwydd gofala ARGLWYDD y Lluoedd am ei braidd, tŷ Jwda, a'u gwneud yn farch-rhyfel balch. Ohonynt hwy y daw'r conglfaen a hoelen y babell; ohonynt hwy y daw'r bwa rhyfel; ohonynt hwy y daw pob cadfridog. Byddant gyda'i gilydd fel rhyfelwyr yn sathru'r heolydd lleidiog yn y frwydr; brwydrant am fod yr ARGLWYDD gyda hwy, a pharant gywilydd i farchogion. Gwnaf dŷ Jwda yn nerthol, a gwaredaf dŷ Joseff; dychwelaf hwy am fy mod yn tosturio wrthynt, a byddant fel pe bawn heb erioed eu gwrthod; oherwydd myfi yw'r ARGLWYDD eu Duw, ac fe'u hatebaf. Yna bydd Effraim fel rhyfelwr, a'i galon yn llawenhau fel gan win, a bydd ei blant yn gweld ac yn llawenychu, a'u calonnau'n gorfoleddu yn yr ARGLWYDD. Chwibanaf arnynt i'w casglu ynghyd, oherwydd gwaredaf hwy, a byddant cyn amled ag y buont gynt. Er imi eu gwasgaru ymysg cenhedloedd, eto mewn gwledydd pell fe'm cofiant, a magu plant, a dychwelyd. Dygaf hwy'n ôl o wlad yr Aifft, a chasglaf hwy o Asyria; dygaf hwy i mewn i dir Gilead a Lebanon hyd nes y byddant heb le. Ânt trwy fôr yr argyfwng; trewir tonnau'r môr, a sychir holl ddyfnderoedd y Neil. Darostyngir balchder Asyria, a throir ymaith deyrnwialen yr Aifft. Gwnaf hwy'n nerthol yn yr ARGLWYDD, ac ymdeithiant yn ei enw,” medd yr ARGLWYDD.
Sechareia 10:1-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Erchwch gan yr ARGLWYDD law mewn pryd diweddar law; a’r ARGLWYDD a bair ddisglair gymylau, ac a ddyd iddynt gawod o law, i bob un laswellt yn y maes. Canys y delwau a ddywedasant wagedd, a’r dewiniaid a welsant gelwydd, ac a ddywedasant freuddwydion ofer; rhoddasant ofer gysur: am hynny yr aethant fel defaid, cystuddiwyd hwynt, am nad oedd bugail. Wrth y bugeiliaid yr enynnodd fy llid, a mi a gosbais y bychod: canys ARGLWYDD y lluoedd a ymwelodd â’i braidd tŷ Jwda, ac a’u gwnaeth fel ei harddfarch yn y rhyfel. Y gongl a ddaeth allan ohono, yr hoel ohono, y bwa rhyfel ohono, a phob gorthrymwr ynghyd a ddaeth ohono. A byddant fel cewri yn sathru eu gelynion yn nhom yr heolydd yn y rhyfel: a hwy a ymladdant, am fod yr ARGLWYDD gyda hwynt; a chywilyddir marchogion meirch. A nerthaf dŷ Jwda, a gwaredaf dŷ Joseff, a pharaf iddynt ddychwelyd i’w cyfle; canys trugarheais wrthynt; a byddant fel pe nas gwrthodaswn hwynt: oherwydd myfi yw yr ARGLWYDD eu DUW hwynt, ac a’u gwrandawaf hwynt. Bydd Effraim hefyd fel cawr, a’u calonnau a lawenychant fel trwy win: a’u meibion a gânt weled, ac a lawenychant; bydd eu calon yn hyfryd yn yr ARGLWYDD. Chwibanaf arnynt, a chasglaf hwynt; canys gwaredais hwynt: ac amlhânt fel yr amlhasant. A heuaf hwynt ymysg y bobloedd: ac mewn gwledydd pell y’m cofiant, a byddant fyw gyda’u plant, a dychwelant. A dychwelaf hwynt o dir yr Aifft, a chasglaf hwynt o Asyria; ac arweiniaf hwynt i dir Gilead a Libanus, ac ni cheir lle iddynt. Ac efe a dramwya trwy y môr mewn blinder, ac a dery y tonnau yn y môr; a holl ddyfnderoedd yr afon a fyddant ddihysbydd: a disgynnir balchder Asyria, a theyrnwialen yr Aifft a gilia ymaith. Nerthaf hwynt hefyd yn yr ARGLWYDD, ac yn ei enw ef yr ymrodiant, medd yr ARGLWYDD.