Sechareia 1:7-17 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Sechareia 1:7-17 BNET (beibl.net 2015, 2024)
Ar y pedwerydd ar hugain o fis un ar ddeg (sef mis Shebat) yn ail flwyddyn teyrnasiad Dareius, dyma’r proffwyd Sechareia yn cael neges arall gan yr ARGLWYDD. Dwedodd Sechareia: Ces i weledigaeth yng nghanol y nos. Gwelais ddyn ar gefn ceffyl fflamgoch. Roedd e’n sefyll rhwng y llwyni myrtwydd yn y ceunant. Roedd ceffylau eraill tu ôl iddo – rhai fflamgoch, rhai llwyd a rhai gwyn. Roedd angel yna wrth ymyl, a dyma fi’n gofyn iddo, “Beth ydy ystyr hyn, syr?” A dyma fe’n ateb, “Gwna i ddangos i ti.” Yna dyma’r dyn oedd yn sefyll rhwng y llwyni myrtwydd yn siarad, a dweud, “Yr ARGLWYDD sydd wedi anfon y rhain i chwilio a gweld beth sy’n digwydd ar y ddaear.” A dyma’r marchogion eraill yn rhoi adroddiad i angel yr ARGLWYDD oedd yn sefyll rhwng y llwyni myrtwydd: “Dŷn ni wedi bod i edrych dros y ddaear gyfan, ac mae pobman dan reolaeth ac yn dawel.” Yna dyma angel yr ARGLWYDD yn gofyn, “ARGLWYDD hollbwerus, rwyt ti wedi bod yn flin gyda Jerwsalem a threfi eraill Jwda ers saith deg o flynyddoedd bellach. Am faint mwy, cyn i ti i ddangos trugaredd atyn nhw?” A dyma’r ARGLWYDD yn ateb a dweud pethau caredig i gysuro’r angel oedd yn siarad â mi. A dyma’r angel yn troi ata i, a dweud wrtho i, “Cyhoedda fod yr ARGLWYDD hollbwerus yn dweud, ‘Dw i’n teimlo i’r byw dros Jerwsalem a dros Seion. Ond dw i wedi digio go iawn gyda’r gwledydd hynny sydd mor gyfforddus a hunanfodlon! Oeddwn, roeddwn i yn ddig gyda’m pobl, ond aeth y rhain yn rhy bell gyda’i creulondeb! Felly, dw i’n mynd i droi’n ôl at Jerwsalem, a dangos trugaredd ati. Dw i’n mynd i adeiladu fy nheml yno eto. Bydd syrfëwr yn dod i fesur Jerwsalem unwaith eto.’ Ie, dyna mae’r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud. Cyhoedda’n uchel eto beth ydy neges yr ARGLWYDD hollbwerus: ‘Bydd y trefi’n fwrlwm o fywyd ac yn llwyddo. Bydd yr ARGLWYDD yn cysuro Seion, ac yn dangos eto ei fod wedi dewis Jerwsalem iddo’i hun,’”
Sechareia 1:7-17 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar y pedwerydd ar hugain o'r unfed mis ar ddeg, sef mis Sebat, o ail flwyddyn Dareius, daeth gair yr ARGLWYDD at y proffwyd Sechareia fab Beracheia, fab Ido. Dywedodd Sechareia: Neithiwr cefais weledigaeth, dyn yn marchogaeth ar geffyl coch. Yr oedd yn sefyll rhwng y myrtwydd yn y pant, ac o'i ôl yr oedd meirch cochion, brithion a gwynion. A gofynnais, “Beth yw'r rhai hyn, arglwydd?” A dywedodd yr angel oedd yn siarad â mi, “Dangosaf i ti beth ydynt.” Yna dywedodd y gŵr oedd yn sefyll rhwng y myrtwydd, “Dyma'r rhai a anfonodd yr ARGLWYDD i dramwyo dros y ddaear.” A dywedasant wrth angel yr ARGLWYDD, a oedd yn sefyll rhwng y myrtwydd, “Yr ydym wedi bod dros y ddaear, ac y mae'r holl ddaear yn dawel ac yn heddychlon.” Yna atebodd angel yr ARGLWYDD, “O ARGLWYDD y Lluoedd, am ba hyd y peidi â thosturio wrth Jerwsalem ac wrth ddinasoedd Jwda, y dangosaist dy lid wrthynt y deng mlynedd a thrigain hyn?” A llefarodd yr Arglwydd eiriau caredig a chysurlon wrth yr angel oedd yn siarad â mi, a dywedodd yr angel oedd yn siarad â mi, “Cyhoedda, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Yr wyf yn eiddigeddus iawn dros Jerwsalem a thros Seion. Yr wyf yn llawn llid mawr yn erbyn y cenhedloedd y mae'n esmwyth arnynt, am iddynt bentyrru drwg ar ddrwg pan nad oedd fy llid ond bychan.’ Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Dychwelaf i Jerwsalem mewn trugaredd ac adeiledir fy nhŷ ynddi,’ medd ARGLWYDD y Lluoedd, ‘ac estynnir llinyn mesur dros Jerwsalem.’ Cyhoedda hefyd, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Bydd fy ninasoedd eto'n orlawn o ddaioni; rhydd yr ARGLWYDD eto gysur i Seion, a bydd eto'n dewis Jerwsalem.’ ”
Sechareia 1:7-17 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ar y pedwerydd dydd ar hugain o’r unfed mis ar ddeg, hwnnw yw mis Sebat, o’r ail flwyddyn i Dareius, y daeth gair yr ARGLWYDD at Sechareia, mab Baracheia, mab Ido y proffwyd, gan ddywedyd, Gwelais noswaith; ac wele ŵr yn marchogaeth ar farch coch, ac yr oedd efe yn sefyll rhwng y myrtwydd y rhai oedd yn y pant; ac o’i ôl ef feirch cochion, brithion, a gwynion. Yna y dywedais, Beth yw y rhai hyn, fy arglwydd? A dywedodd yr angel oedd yn ymddiddan â mi wrthyf, Mi a ddangosaf i ti beth yw y rhai hyn. A’r gŵr, yr hwn oedd yn sefyll rhwng y myrtwydd, a atebodd ac a ddywedodd, Dyma y rhai a hebryngodd yr ARGLWYDD i ymrodio trwy y ddaear. A hwythau a atebasant angel yr ARGLWYDD, yr hwn oedd yn sefyll rhwng y coed myrt, ac a ddywedasant, Rhodiasom trwy y ddaear; ac wele yr holl ddaear yn eistedd, ac yn llonydd. Ac angel yr ARGLWYDD a atebodd ac a ddywedodd, O ARGLWYDD y lluoedd, pa hyd na thrugarhei wrth Jerwsalem, a dinasoedd Jwda, wrth y rhai y digiaist y deng mlynedd a thrigain hyn? A’r ARGLWYDD a atebodd yr angel oedd yn ymddiddan â mi, â geiriau daionus, a geiriau comfforddus. A’r angel yr hwn oedd yn ymddiddan â mi a ddywedodd wrthyf, Gwaedda, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Deliais eiddigedd mawr dros Jerwsalem a thros Seion: A digiais yn ddirfawr wrth y cenhedloedd difraw; y rhai pan ddigiais ychydig, hwythau a gynorthwyasant y niwed. Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Dychwelais at Jerwsalem â thrugareddau: fy nhŷ a adeiledir ynddi, medd ARGLWYDD y lluoedd, a llinyn a estynnir ar Jerwsalem. Gwaedda eto, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Fy ninasoedd a ymehangant gan ddaioni, a’r ARGLWYDD a rydd gysur i Seion eto, ac a ddewis Jerwsalem eto.