Titus 3:8-9
Titus 3:8-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae beth sy’n cael ei ddweud mor wir! Dyma’r pethau dw i am i ti eu pwysleisio, er mwyn i bawb sy’n credu yn Nuw fod ar y blaen yn gwneud daioni. Mae hynny’n beth da ynddo’i hun, ac mae’n gwneud lles i bawb. Ond paid cael dim i’w wneud â’r dyfalu dwl am achau, a’r holl gecru a dadlau am ryw fân reolau yn y Gyfraith Iddewig. Does dim pwynt – mae’r cwbl yn wastraff amser llwyr!
Titus 3:8-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dyna air i'w gredu. Ac y mae'n ddymuniad gennyf i ti fynnu hyn: bod y rhai a ddaeth i gredu yn Nuw i ofalu eu bod yn ymroi i weithredoedd da. Dyma gyngor da a buddiol i bawb. Ond gochel gwestiynau ffôl, ac achau, a chynhennau a chwerylon ynghylch y Gyfraith, oherwydd di-fudd ac ofer ydynt.
Titus 3:8-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gwir yw’r gair, ac am y pethau hyn yr ewyllysiwn i ti fod yn daer, fel y byddo i’r sawl a gredasant i Dduw ofalu ar flaenori mewn gweithredoedd da. Y pethau hyn sydd dda a buddiol i ddynion. Eithr gochel gwestiynau ffôl, ac achau, a chynhennau, ac ymrysonau ynghylch y ddeddf: canys anfuddiol ydynt ac ofer.